Rhybudd melyn am stormydd i ran helaeth o Gymru
Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru ddydd Iau.
Bydd y rhybudd mewn grym hyd at 23.59 nos Iau ac fe allai ardaloedd yn y gogledd, canolbarth a’r de gael eu heffeithio, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Fe allai’r tywydd garw – sydd yn cynnwys cawodydd trwm a mellt a tharanau – achosi oedi ar y ffyrdd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhybuddio fod posibilrwydd o lifogydd mewn ardaloedd.
Mae disgwyl i gawodydd trwm symud tuag at y gogledd-ddwyrain yn ystod y bore gan barhau hyd at ganol dydd.
Yn ystod y prynhawn, mae disgwyl i stormydd symud i'r de ac fe allai rhai ardaloedd yno gael hyd at 50mm o law o fewn cyfnod o awr neu ddwy.
Fe ddaw hyn wedi i'r wlad fwynhau cyfnod o dywydd hafaidd, clir a chynnes ar ddechrau'r wythnos.
Mae’r rhybudd melyn mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Caerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam