Newyddion S4C

'Cyfleoedd wedi eu colli' i amddiffyn merch dwy oed gafodd ei llofruddio yn Sir Benfro

01/08/2024

'Cyfleoedd wedi eu colli' i amddiffyn merch dwy oed gafodd ei llofruddio yn Sir Benfro

Mae adolygiad i lofruddiaeth merch dwy oed yn Sir Benfro yn 2020 wedi dod i'r casgliad bod yna gyfleoedd wedi eu colli i'w hamddiffyn. 

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020, bedwar diwrnod ar ôl derbyn anaf difrifol i'w phen yn ei chartref yn nhref Hwlffordd.

Mae adroddiad i farwolaeth y ferch ddwy oed a gyhoeddwyd ddydd Iau wedi nodi nifer o fethiannau mewn amrywiol sefydliadau, gan gynnwys methiant i ddilyn y prosesau cywir.

Cafodd Kyle Bevan, 32 oed, oedd yn gariad i fam Lola, ei ddedfrydu i garchar am oes yn Llys y Goron Abertawe fis Ebrill y llynedd. Fe fydd yn rhaid iddo dreulio lleiafswm o 28 mlynedd dan glo.

Cafodd mam Lola, Sinead James, 30, ei dedfrydu i chwe blynedd o garchar ar ôl cael ei dyfarnu'n euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth Lola.

Fe fydd yn rhaid iddi dreulio tair blynedd dan glo, gyda thair blynedd ar drwydded.

Methiannau

Nododd yr adolygiad ymarfer plant gan Fwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru gyfres o fethiannau, gydag adroddiadau wedi’u cau heb unrhyw fanylion wedi eu dilyn, staff yn gorweithio ac ymweliadau heb eu cynnal pan ddylent fod wedi eu gwneud.

Dywedodd yr adolygiad bod pryderon wedi’u codi ym mis Ionawr 2020 gan ymwelydd iechyd â chartref Lola, a ddywedodd fod y fam yn gweld ei merch yn feichus, ac mewn ymweliadau blaenorol, ei bod heb ei golchi, a’i thraed yn ddu gyda baw.

Tra bod yr ymwelydd iechyd wedi cyflwyno ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth i ddod â’r gwasanaethau cymdeithasol i edrych ar sefyllfa'r ferch fach, dywedodd yr adolygiad bod nifer o “gyfleoedd wedi’u colli” i drefnu ymweliadau cartref ychwanegol, a allai fod wedi caniatáu i les Lola gael ei asesu.

Gallai’r ymweliadau hynny hefyd fod wedi datgelu bod Bevan yn byw yn y cyfeiriad, a chyflwr y cartref, fyddai “ar ei ben ei hun wedi codi pryderon amddiffyn plant”.

Image
Sinead James a Kyle Bevan
Sinead James a Kyle Bevan

Agorodd y Gwasanaethau Plant adroddiad ar Lola - adroddiad a gafodd ei feirniadu gan yr adolygiad fel un oedd gyda “diffyg manylder a dadansoddiad”.

Dywedodd y bwrdd fod adroddiad wedi'i ddyddio o Chwefror 2020, ond daeth i'r amlwg nad oedd yr asesiad wedi'i gwblhau gan y gweithiwr cymdeithasol a enwyd a'i fod yn lle hynny wedi'i greu a'i gau gan reolwr tîm ym mis Mawrth y flwyddyn honno.

Roedd y gweithiwr cymdeithasol a enwyd wedi bod ar absenoldeb salwch o'r gwaith, gyda’r tîm “yn brwydro o dan bwysau’r llwyth gwaith di-baid”.

Dywedodd yr adroddiad: “Nid yw hwn yn arfer a gymeradwywyd gan y gwasanaethau plant ar y pryd...

“Canlyniad yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn yw na chafodd asesiad o anghenion (Lola) ei gynnal yn briodol gan y gwasanaethau plant, yn ôl yr angen.”

Canfuwyd hefyd nad oedd gweithwyr cymdeithasol wedi cysylltu â thad Lola, nac wedi cael gwybod gan yr heddlu am ddigwyddiadau yn y cartref.

Anaf 'catastroffig'

Bu farw Lola yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020 ar ôl dioddef anaf "catastroffig" i'w phen. Roedd ganddi hefyd dros 100 o anafiadau allanol i'w chorff.

Yn ystod yr achos pedair wythnos yn Llys y Goron Abertawe y llynedd, dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC fod Bevan wedi ymosod ar Lola er mwyn ei lladd, ac wedi defnyddio'r oriau ar ôl yr ymosodiad i amddiffyn ei hun yn hytrach na galw am ambiwlans.

Cafodd yr honiad fod Sinead James yn cysgu ar y pryd a heb gymryd rhan yn yr ymosodiad a arweiniodd at farwolaeth ei merch, ei dderbyn. 

Ond yn ôl yr erlyniad, methodd James, a oedd yn gyn-ddioddefwraig trais domestig, ag amddiffyn Lola, ac "yn hytrach fe wnaeth hi ddewis blaenoriaethu ei pherthynas gyda Bevan yn hytrach na diogelwch corfforol ei merch."

'Cyfle i fyfyrio'

Wrth ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Tessa Hodgson, aelod cabinet Cyngor Sir Benfro dros ofal cymdeithasol a diogelu: “Yn gyntaf, hoffai Cyngor Sir Penfro gyfleu eu cydymdeimlad diffuant i deulu Lola James ac i bawb sydd wedi’u heffeithio gan ei llofruddiaeth, dros bedair blynedd yn ôl.”

Disgrifiodd yr adolygiad fel cyfle i'r awdurdod fyfyrio ar ei arferion ac i ddysgu o'r sylwadau yn yr adroddiad. Mynnodd fod cynllun gweithredu i ymdrin â'r materion eisoes yn cael ei roi ar waith gyda bwrdd gwella gofal cymdeithasol yn cael ei sefydlu.

“Gobeithiwn hefyd y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at ddysgu a gwelliant parhaus ehangach mewn perthynas â nifer o faterion diogelu allweddol ar draws yr holl asiantaethau sydd â chyfrifoldebau diogelu yn rhanbarth Gorllewin Cymru a thu hwnt.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn achub ar bob cyfle i wella ein gwasanaethau, a sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael cymorth o’r ansawdd gorau sydd ar gael.”

'Cydymdeimlad'

Dywedodd datganiad ar y cyd ar ran Cyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Heddlu Dyfed Powys: “Mae’r holl asiantaethau sy’n ymwneud â’r adroddiad hwn yn dymuno cyfleu eu cydymdeimlad diffuant i deulu’r plentyn ac i bawb sydd wedi’u heffeithio gan lofruddiaeth y plentyn mewn amgylchiadau mor ofnadwy.

“Mae’r adolygiad hwn wedi bod yn gyfle i adlewyrchu a rhannu’r hyn a ddysgwyd ymhlith yr holl sefydliadau partner ac ymarferwyr ar sail aml-asiantaeth, ac rydym yn cydnabod ymrwymiad a chyfraniad y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses adolygu.

“Mae pob asiantaeth yn cymryd y cyfleoedd y mae’r adolygiad hwn yn eu cyflwyno o ddifrif, i ystyried ein harferion a gwella sut rydym yn amddiffyn plant agored i niwed.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hefyd yn cyfrannu at ddysgu a gwelliant parhaus ehangach mewn perthynas â nifer o faterion diogelu allweddol ar draws yr holl asiantaethau sydd â chyfrifoldebau diogelu."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.