Achos Huw Edwards: Yr Ysgrifennydd Diwylliant i gynnal cyfarfod brys gyda phennaeth y BBC
Bydd yr Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy yn cynnal cyfarfod brys gyda phennaeth y BBC Tim Davie ar ôl i Huw Edwards gyfaddef iddo wneud lluniau anweddus o blant.
Wedi i'r darlledwr profiadol gyfaddef y cyhuddiadau yn ei erbyn, dywedodd y gorfforaeth ei bod yn gwybod am arestio Huw Edwards ar “amheuaeth o droseddau difrifol” ym mis Tachwedd, ond parhaodd i’w gyflogi tan fis Ebrill.
Cyfaddefodd Edwards i dri chyhuddiad o wneud lluniau anweddus ar ôl i’r pedoffeil Alex Williams anfon 41 o ddelweddau ato, gyda saith o’r math mwyaf difrifol.
Ar ôl pledio’n euog ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Ym mis Tachwedd 2023, tra bod Mr Edwards wedi’i wahardd, cafodd y BBC fel ei gyflogwr ar y pryd wybod yn gyfrinachol ei fod wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau difrifol a’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau gyda'u hymchwiliad.
“Ar y pryd, doedd dim cyhuddiadau wedi’u dwyn yn erbyn Mr Edwards ac roedd y BBC hefyd wedi cael gwybod am risg sylweddol i’w iechyd.”
Ychwanegodd y gorfforaeth: “Mae’r BBC mewn sioc o glywed y manylion sydd wedi dod i’r amlwg yn y llys heddiw. Ni all fod lle i ymddygiad mor ffiaidd ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio."
“Heddiw rydym wedi dysgu am gasgliadau proses yr heddlu yn y manylion fel y’u cyflwynwyd i’r llys.
“Pe bai ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod roedd Mr Edwards yn cael ei gyflogi gan y BBC wedi cael ei gyhuddo, byddai'r BBC wedi penderfynu y byddai’n gweithredu ar unwaith i’w ddiswyddo.
"Yn y diwedd, pan gafodd ei gyhuddo, nid oedd bellach yn gweithio i'r BBC.
“Yn ystod y cyfnod hwn, yn y ffordd arferol, mae’r BBC wedi cadw ei reolaeth gorfforaethol o’r materion hyn ar wahân i’w swyddogaethau golygyddol annibynnol.”
Dywedodd neges mewnol a anfonwyd at staff y BBC ochr yn ochr â’r datganiad, a lofnodwyd ar y cyd gan Mr Davie, fod penaethiaid wedi eu “ffieiddio” gan y newyddion.
Ychwanegodd y neges “ni all fod lle i ymddygiad o’r fath” yn y BBC.
Yn ôl adroddiadau, mae disgwyl i Ms Nandy gwrdd â Mr Davie ddydd Iau i drafod y modd gwnaeth y BBC ymdrin â'r achos.