Cyhuddo bachgen 17 oed o lofruddio tair merch ifanc yn Southport
Mae bachgen 17 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio yn dilyn marwolaeth tair merch mewn clwb gwyliau yn Southport.
Cafodd Alice Dasilva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, eu trywanu i farwolaeth ddydd Llun pan aeth y dyn ifanc i mewn i’r dosbarth dawnsio ar Stryd Hart yn Southport, Glannau Mersi.
Roedd y dyn ifanc wedi symud i Southport o Gaerdydd gyda'i deulu pan yn iau.
Dioddefodd wyth o blant eraill anafiadau yn yr ymosodiad - gyda phump ohonynt yn parhau mewn cyflwr difrifol - tra bod dau oedolyn hefyd wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Mae anhrefn wedi bod mewn nifer o ddinasoedd yn dilyn yr ymosodiad, gyda mwy na 100 o bobol wedi’u harestio mewn protest yn Whitehall nos Fercher.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg ychydig ar ôl hanner nos ddydd Iau, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Glannau Mersi Serena Kennedy: “Mae bachgen 17 oed o Banks wedi’i gyhuddo o lofruddiaethau Bebe, Elsie Dot ac Alice, 10 cyhuddiad o geisio llofruddio a bod â llafn yn ei feddiant yn dilyn y digwyddiad trasig yn Southport ddydd Llun Gorffennaf 29.
“Ni ellir enwi’r bachgen 17 oed am resymau cyfreithiol gan ei fod o dan 18 oed.
“Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa i ymddangos dydd Iau Awst 1, yn Llys Ynadon Lerpwl, Sgwâr Derby.
“Er bod y cyhuddiadau hyn yn garreg filltir arwyddocaol yn yr ymchwiliad hwn, mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad byw ac rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid o Heddlu Sir Gaerhirfryn a heddlu gwrthderfysgaeth yn y Gogledd Orllewin.”
Mae'r bachgen, gafodd ei eni yng Nghaerdydd i rieni o Rwanda, yn dod o bentref Banks, tu allan i Southport.
Dywedodd Sarah Hammond, Prif Erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron Mersi-Swydd Gaer: “Rydym yn atgoffa pawb bod achosion troseddol yn erbyn y diffynnydd yn weithredol a bod ganddo’r hawl i achos teg.
“Mae’n hynod bwysig na ddylai fod unrhyw adrodd, sylwebaeth na rhannu gwybodaeth ar-lein a allai ragfarnu’r achos hwn mewn unrhyw ffordd.”
Fe wnaeth miloedd o bobol roi teyrnged i’r dioddefwyr mewn gwylnos yn Southport nos Fawrth, ond fe drodd y noson yn un dreisgar yn ddiweddarach y tu allan i fosg yn y dref gyda 53 o blismyn a thri chi heddlu wedi’u hanafu.
Mae pump o ddynion wedi’u harestio yn dilyn y trais.