Newyddion S4C

Dod o hyd i sgerbwd babi dan lawr ystafell mewn tŷ

31/07/2024
Durham

Mae’n bosib bod sgerbwd babi a gafodd ei ddarganfod dan lawr ystafell mewn tŷ gan gontractwyr wedi “bod yno gyda neb wedi tarfu arno ers rhai blynyddoedd,” meddai’r heddlu.

Daeth contractwyr o hyd i’r sgerbwd wrth adnewyddu tŷ yn Bishop Auckland, Sir Durham.

Dywedodd Heddlu Durham ddydd Mercher eu bod wedi gorffen archwilio'r adeilad ac nad oedd unrhyw gyrff eraill yno.

“Mae ditectifs yn aros am ganlyniadau dadansoddiad fforensig, ond mae’n ymddangos bod y babi yn un o oed geni ac nad oedd wedi cael ei styrbio ers nifer o flynyddoedd,” medd y llu.

“Mae corff y babi bellach wedi’i gludo i Ysbyty Royal Victoria yn Newcastle, lle bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal fore Gwener.”

Llun gan PA/  Owen Humphreys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.