Newyddion S4C

'Mae’n bwysig wynebu’r dwyrain': Y dyn sy'n gosod Cerrig yr Orsedd

Geraint Jones

Mae morthwyl, sgriwdreifer a dril yn bethau arferol i’w canfod ym mocs celfi crefftwr, ond anaml y cewch chi hyd i gwmpawd!

Mae Geraint Jones, sy’n byw yn Llanelwedd ond yn hanu o Lanybydder ble mae stordy’r Eisteddfod, yn un o Hogia’r Maes, y tîm bychan sy’n adeiladu’r Maes o flwyddyn i flwyddyn.

Un o’i brif ddyletswyddau yw gosod Cerrig yr Orsedd yn eu lle.

“Y Maen Llog sy’n cael ei osod i ddechrau ac mae’n bwysig fod hwnnw’n wynebu’r dwyrain lle mae’r haul yn codi’n foreol," meddai.

"Felly, mae’n rhaid cael cwmpawd i sicrhau bod yr Archdderwydd yn wynebu’r haul yn llygad goleuni.

"Rydw i’n gwneud yn siŵr fod gen i gwmpawd yn fy mhoced cyn cychwyn ar y gwaith bob blwyddyn."

Image
Geraint Jones

Eglura Geraint fod Cylch yr Orsedd yn draddodiadol wedi’i wneud o garreg ac yn cael ei osod mewn lleoliad cyhoeddus a’i adael fel cofeb i ymweliad yr Eisteddfod.

“O dro i dro, bydd yr Eisteddfod yn mynd nôl i’r un lle, ond ’dyw hi ddim yn bosibl i gynnal seremoni wrth y Cerrig gan fod ardaloedd a thiroedd yn newid," meddai.

“Felly rai blynyddoedd yn ôl bellach penderfynwyd creu Cylch symudol. Mae’r cerrig wedi’u gwneud o wydr-ffeibr, gyda gwaelod metal. 

"Dy’n nhw ddim yn drwm iawn ond maen nhw’n ddigon trwm i wrthsefyll y tywydd ac eisteddfodwyr brwdfrydig!”

'Gorwneud pethau'

Ers cyflwyno’r cerrig symudol ar y Maes, mae Geraint wedi gweld sawl digwyddiad diddorol, doniol a lled-beryglus o amgylch y cerrig.

“Mae llawer yn eistedd ar y Maen Llog ac yn dynwared yr Archdderwydd," meddai. 

"Rydw i wedi gweld rhai’n cael picnic ac eraill yn ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur ar y Maes.

“Rydw i wedi colli cownt o faint o bobl sy’n mynd atyn nhw a’u cnocio’n ysgafn gyda’u dwylo i weld os ydyn nhw’n gerrig ‘go iawn’!

“Wrth gwrs mae ambell un wedi gorwneud pethau yn y bar, ac rwy’n cofio gweld un boi yn rhoi tacl rygbi i un o’r cerrig. 

"Y garreg enillodd."

Image
Eisteddfod Tregaron

Mae Geraint yn cyrraedd y Maes ar ddechrau’r gwaith adeiladu yng nghanol Mehefin, ac yn gweithio fel rhan o dîm Hogia’r Maes i osod yr isadeiledd, yr adeiladau a’r addurniadau o amgylch y safle.

“Mae’n waith caled gosod pob dim yn ei le," meddai. 

"Rydyn ni’n cychwyn gyda’r ffensio, y compownd ar gyfer y gweithwyr a’r cyflenwad dŵr cyn troi at yr adeiladau.

“Pan fydd popeth wedi’i gwblhau, rydw i’n canolbwyntio ar y maes parcio a’r maes carafanau, ac yno fydda i yn ystod yr wythnos ei hun, yn gofalu am y tir ac yn helpu gydag unrhyw broblemau.”

Mae Geraint yn un o Hogia’r Maes ers bron i 30 mlynedd, ac wedi gweld pethau’n newid tipyn yn ystod y cyfnod hwn.

Dywedodd, “Rydw i’n ’nabod Tony [arweinydd y tîm] ers dyddiau ysgol a’i dad Meidrim oedd yn gyfrifol am osod y Maes am flynyddoedd.

"Fe ofynnodd i mi ymuno â’r tîm i osod y Maes yn Abergele nôl yn 1995.

“Brici ydw i yn y byd go iawn, ac roedd gwaith y flwyddyn yna’n araf, felly dyna gytuno i ddod i helpu ar y Maes. Wedyn fues i’n gweithio yn yr Urdd yn Wrecsam a’r Eisteddfod yn Llandeilo’r flwyddyn wedyn.

“Es i’n ôl i osod brics ar ôl hynny, a dod ’nôl i’r Eisteddfod yn Wrecsam yn 2011 ac rydw i wedi bod yn gwneud y gwaith byth er hynny. Dwi wrth fy modd,” meddai."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.