
Coroni gwesty yng Ngheredigion fel 'gofod mwyaf Cymraeg y byd'
Mae gwesty sydd hefyd yn ysgol iaith yng Ngheredigion wedi cael ei goroni'n "ofod mwyaf Cymraeg y Byd".
Nia Llewelyn sydd wedi bod yn cynnal cyrsiau a 'bŵt camps' Cymraeg yn Garth Newydd yn Llanbedr Pont Steffan am y tair blynedd diwethaf.
Mae dysgwyr Cymraeg yn teithio o mor bell i ffwrdd ag America, Awstralia a Sgandinafia i fagu mwy o hyder yn siarad yr iaith.
Enillodd Garth Newydd y wobr 'Gofod Mwyaf Cymraeg y Byd' yng Ngwobrau Mwyaf Cymraeg y Byd.
Dywedodd Mrs Llywelyn bod rhoi'r cyfle i bobl i ddysgu'r Gymraeg wyneb yn wyneb yn bwysig.
"Fe allen ni wario arian ar drefnu digwyddiadau ond yr hyn y mae'n well gan ein gwesteion ei wneud yw cael cyfle i gyfarfod, siarad a dod i adnabod siaradwyr Cymraeg brodorol," meddai.
"Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw helpu pobl ar y daith i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
"Y dyddiau yma mae yna lot o ddysgu yn digwydd o flaen sgrîn ond mae'n llawer brafiach i bobl gymdeithasu gyda'i gilydd ac er mwyn eu hannog i siarad dwi'n gofyn iddyn nhw ddod ag eitemau gyda nhw.
"Yr wythnos diwethaf cawsom fenyw o Texas, pobl o Ganada ac Awstralia a'r mis diwethaf roedd rhywun o Sweden yn aros yma nad oedd erioed wedi siarad ag unrhyw un yn Gymraeg wyneb yn wyneb, ac fe wnaeth hi ymdopi'n wych.
"Ry’n ni'n cael pob math o bobl yma. Ry'n ni wedi cael dynes o Malta oedd yn siarad naw iaith ac eisiau dysgu Cymraeg."

Marcus Whitfield yw perchennog Garth Newydd. Mae'n byw yng Nghaint, ond yn wreiddiol o Fwcle yn Sir y Fflint, ac wedi dysgu'r iaith ei hun yn oedolyn.
Mae'n gefnogwr pêl-droed brwd sydd bellach yn byw yng Nghaint ar ôl gadael Bwcle heb unrhyw Gymraeg ond eglurodd Nia: "Mae'n dilyn tîm pêl-droed Cymru ac yn cefnogi Wrecsam hefyd felly fe aeth ati i ddysgu Cymraeg.
"Fe brynodd y tŷ oherwydd ei gariad at yr iaith a dw i'n ei rentu ganddo fe i redeg y cyrsiau yma."
'Dathlu popeth Cymraeg'
Bwrlwm ARFOR sydd yn gyfrifol am ddynodi'r wobr, ymgyrch sydd yn hyrwyddo budd economaidd y Gymraeg mewn busnes yn y pedair sir sy'n "gadarnleoedd i'r iaith" sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.
Nod y gwobrau yw "dathlu busnesau yn y pedair sir sy'n elwa'n ariannol o ddefnyddio'r Gymraeg a rhoi hwb i'w hincwm."
Dywedodd rheolwr Bwrlwm ARFOR, Zoe Pritchard: "Roedd y seremoni wobrwyo yn achlysur llawen i ddathlu popeth Cymraeg a’r ffaith ei bod yn iaith fyw a bywiog.
"Rydyn ni eisiau creu bwrlwm o gwmpas y defnydd o'r Gymraeg mewn amgylchedd busnes neu fasnachol a sut y gall hynny helpu busnesau i ffynnu a darparu gyrfaoedd i'n pobl ifanc fel nad ydyn nhw'n teimlo bod yn rhaid iddyn nhw symud i ffwrdd.
"Ei nod yw dathlu'r Gymraeg a dangos nad darn o amgueddfa mohono ond yn rhywbeth sydd â manteision posib a pherthnasedd gwirioneddol i fusnesau yma ar draws y pedair sir."
Dyma enillwyr y gwobrau i gyd:
Staff Mwyaf Cymraeg – Caffi Maes, Caernarfon, Gwynedd
Gofod Mwyaf Cymraeg – Garth Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Unigolyn Mwyaf Cymraeg – Geraint Edwards, Sir Gaerfyrddin
Cynnyrch Mwyaf Cymraeg – Ffion Wyn Evans, Blociau/Enfys, Caernarfon, Gwynedd
Brand Mwyaf Cymraeg – Sglods, Llanon, Ceredigion
Cyfryngau Mwyaf Cymraeg – Pawen Lawen, Niwbwrch, Ynys Môn
Busnes Mwyaf Cymraeg – Caffi Maes, Caernarfon, Gwynedd
Prif lun: Ffotograffiaeth Phil Blagg