Gwobr o £20,000 i ddatrys dirgelwch llofruddiaeth ar Ynys Môn
Mae elusen wedi cynnig gwobr o £20,000 i geisio dod o hyd i lofrudd gwraig o Gaergybi 30 mlynedd yn ôl.
Cafodd gweddillion corff Doreen Morris eu darganfod mewn ystafell wely yn ei chartref ym mis Mawrth 1994. Roedd y tŷ wedi ei roi ar dân.
Roedd rhywun wedi torri mewn drwy'r drws cefn, a cafodd nifer o eitemau oedd wedi eu dwyn o'r tŷ eu darganfod yn y cyffuniau.
Yn ddiweddarach, cafodd dyn o'r enw Carl Westbury ei gyhuddo o'r llofruddiaeth, ond fe'i cafwyd o'n ddieuog mewn achos llys ym 1995.
Lladdodd Mr Westbury ei hun yn 2016.
Mewn cwest yn 2022, dywedodd bargyfreithiwr ar ran teulu Ms Morris fod y teulu wedi wynebu "wal o dawelwch" wrth geisio darganfod beth ddigwyddodd.
Dywedodd Hayley Fry, Rheolwr dros Gymru ar gyfer elusen Crimestoppers, sy'n cynnig y wobr: "'Da ni'n gwybod weithiau ei bod hi'n rhy anodd i bobl fynd at yr heddlu am yr hyn maen nhw'n ei wybod – ac mae hynny'n gallu bod am amryw resymau gan gynnwys ofn cael eu dychryn neu deyrngarwch.
"Fodd bynnag, mae'r achos hwn yn drasig ac, hefo chymaint o flynyddoedd wedi mynd heibio, mae perthnasau Doreen a'r gymuned ehangach yn haeddu gwybod yr hyn ddigwyddodd – a phwy oedd yn gyfrifol.
"Os 'da chi ddim eisiau siarad hefo'r heddlu, cysylltwch hefo'r elusen Crimestoppers. 'Da ni'n annibynnol ac yn gwarantu y byddwch chi'n aros 100% yn anhysbys - mae hynny'n golygu dim heddlu, dim llysoedd, dim datganiadau tyst. Dywedwch wrthym ni'r hyn 'da chi'n wybod, a dyna ni. Fe wnawn ni drosglwyddo'r neges ar eich rhan chi.
"Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt yn y DU ar 0800 555 111 neu llenwch ffurflen ar-lein ddienw hawdd ei defnyddio ar ein gwefan ni. Ar ôl cymaint o flynyddoedd, os 'da chi wedi dal gafael ar wybodaeth a allai helpu ddod â chyfiawnder i Doreen, dyma'ch cyfle chi i unioni cam, o drasiedi, a gwneud gwahaniaeth."