Newyddion S4C

Ymosodiad Southport: Heddlu'n cael mwy o amser i holi llanc 17 oed

31/07/2024
Genod Southport

Mae heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad Southport wedi cael mwy o amser i holi llanc 17 oed mae nhw wedi arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Bore Mercher rhoddodd ynadon hawl i dditectifs i barhau i gadw'r llanc yn y ddalfa. Does dim modd ei enwi oherwydd ei oed. 

Mae ffans Taylor Swift wedi codi bron i £300,000 i deuluoedd y rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr ymosodiad.

Cafodd Bebe King, chwech oed, Elsie Dot Stancombe, saith oed, ac Alice Dasilva Aguiar, naw oed, eu trywanu tra roedden nhw mewn gweithdy dawns ddydd Llun.

Mae pump o blant eraill a dau oedolyn yn yr ysbyty.

Roedd yna thema Taylor Swift i'r gweithdy a ddigwyddodd ar ddechrau'r gwyliau haf i blant Lloegr.

Fe ddechreuodd Cristina Jones o Swydd Wilton y dudalen JustGiving i godi arian ar y cyd ag elusen Ysbyty Plant Alder Hey geisio lleihau "baich ariannol" y teuluoedd.

"Beth wnaeth ein hysgogi ni oedd meddwl bod y teuluoedd yn mynd trwy uffern na allwn ni ddirnad rŵan," meddai.

"Mae'n teimlo yn neis ein bod ni wedi gwneud rhywbeth positif. 

"Dwi'n credu yn gryf nad oes yna unrhywbeth y gallwn ni ei wneud i wneud i'r teuluoedd deimlo yn well achos yr hyn maen nhw yn mynd drwyddo. 

"Ond os ydyn ni wedi lleihau'r baich, yn ariannol neu beth bynnag, mae'n braf i feddwl ein bod ni wedi gwneud beth allwn ni."

Dywedodd Cristina Jones y bydd yr arian i gyd yn mynd at elusen blant Alder Hey, er mwyn helpu'r plant sydd yn cael eu trin yn yr ysbyty yno hefyd.

Ychwanegodd bod hi'n braf gweld y datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol gan y gantores fyd enwog, Taylor Swift oedd yn talu teyrnged i'r merched bach fuodd farw. 

Mae unigolion eraill hefyd wedi sefydlu tudalennau JustGiving er mwyn helpu teuluoedd y dioddefwyr. 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.