Hawl gan ysgolion uwchradd i oedi dechrau’r cwricwlwm newydd
Fe fydd hawl gan ysgolion uwchradd oedi cyflwyno’r cwricwlwm newydd yng Nghymru tan 2023 wedi cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg newydd.
Dywedodd Jeremy Miles, sydd wedi bod yn y rôl ers deufis bellach, y byddai gan ysgolion uwchradd yr opsiwn o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd ar gyfer Blwyddyn 7 yn 2022 neu ar gyfer Blynyddoedd 7 ac 8 gyda’i gilydd yn 2023.
Mae’r newid wedi ei gyflwyno ar gyfer ysgolion uwchradd er mwyn cydnabod yr heriau penodol maent wedi eu profi yn ystod y pandemig wrth geisio addasu i system newydd ar gyfer asesu.
Cadarnhaodd Mr Miles na fyddai’n rhaid cynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a diwedd cyfnodau allweddol yn ystod blwyddyn academaidd 2021-2022 ar gyfer grwpiau blwyddyn a fydd yn dechrau ar y Cwricwlwm newydd yn 2022.
Fe fydd y llywodraeth yn sefydlu Rhwydwaith Cenedlaethol, corff wedi’i arwain gan ymarferwyr, a fydd yn darparu cefnogaeth i ysgolion i roi’r Cwricwlwm newydd ar waith.
Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai £7.24 miliwn yn cael ei roi i ysgolion er mwyn cefnogi eu cynlluniau i ddiwygio’r cwricwlwm.
'Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth'
Dywedodd Jeremy Miles: "Fy mlaenoriaeth yw rhoi lles a chynnydd dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwyldroi safon y cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc ac rwy'n benderfynol nad ydym am golli'r cyfle hwnnw.
"Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm. Rwy’n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu hyblygrwydd ychwanegol i ysgolion lle maent yn barnu bod arnynt ei angen.
"Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm. Rhaid i'n system gymwysterau gyd-fynd â’r uchelgais gyffrous y tu ôl i'n cwricwlwm. Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi cyfle i'r sector weithio'n agos gyda Chymwysterau Cymru dros y flwyddyn i ddod i gyd-lunio set o gymwysterau o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd sy'n dod i'r amlwg wrth ystyried dulliau asesu”.
'Cyfaddawd doeth'
Mae'r cyhoeddiad am y newid i'r amserlen wedi ei groesawu gan undeb addysg sydd wedi ei ddisgrifio fel "cyfaddawd doeth".
Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Croesawn yr addasiad i’r amserlen fel cyfaddawd doeth. Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â’r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.
“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau’n fwy o her i’r sector uwchradd, yn ogystal â’r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi’u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.
“Yr unig siom sydd gennym yw bod cyflwyno’r cwricwlwm i Flynyddoedd 7 ac 8 ar yr un pryd yn 2023 yn colli’r cyfle i roi blwyddyn ychwanegol ar gyfer addasu cymwysterau i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Mae yna waith sylweddol iawn i’w wneud i sicrhau – yn unol â gweledigaeth y Gweinidog – bod ein cymwysterau yn cyd-fynd â’r uchelgais gyffrous tu ôl i’n cwricwlwm".
Dan gynlluniau presennol y llywodraeth, fe fydd y cymwysterau cyntaf ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru’n cael eu cyflwyno ym mlwyddyn academaidd 2026-27.
Mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg heddiw y bydd addasiad i amserlen cyflwyno’r cwricwlwm newydd, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Croesawn yr addasiad i’r amserlen fel cyfaddawd doeth. Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â’r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.
“Mae’n gydnabyddiaeth o’r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau’n fwy o her i’r sector uwchradd, yn ogystal â’r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi’u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.
“Rydym yn rhoi croeso gofalus yn ogystal i’r gefnogaeth ychwanegol o ran cyllid, sefydlu’r Rhwydwaith Cenedlaethol, a’r addasiad i fframweithiau Estyn, er bod llawer o fanylion i’w cadarnhau eto.
“Yr unig siom sydd gennym yw bod cyflwyno’r cwricwlwm i Flynyddoedd 7 ac 8 ar yr un pryd yn 2023 yn colli’r cyfle i roi blwyddyn ychwanegol ar gyfer addasu cymwysterau i gyd-fynd â’r cwricwlwm newydd. Mae yna waith sylweddol iawn i’w wneud i sicrhau – yn unol â gweledigaeth y Gweinidog – bod ein cymwysterau yn cyd-fynd â’r uchelgais gyffrous tu ôl i’n cwricwlwm.”