Paris 2024: Y triathlon yn cael digwydd wedi gwelliant yn ansawdd y dŵr
Mae triathlons y Gemau Olympaidd wedi cael dechrau ar ôl i brofion ddangos bod ansawdd y dŵr yn yr afon Seine wedi gwella.
Roedd yn rhaid gohirio cystadleuaeth triathlon unigol y dynion ddydd Mawrth a sesiynau hyfforddi nofio yn y dyddiau cynt am nad oedd y dŵr yn cwrdd â'r safon ofynnol.
Glaw trwm ym Mharis ddydd Gwener a dydd Sadwrn wnaeth effeithio ar y dŵr, gan ei wneud yn rhy fudur i gystadleuwyr allu nofio ynddo.
Ar un pwynt roedd yna bosibilrwydd y byddai'n rhaid hepgor elfen nofio'r triathlon a gofyn i'r athletwyr wneud duathlon yn lle hynny, sef y beicio a'r rhedeg.
Roedd nofio yn yr afon Seine wedi ei wahardd am 100 mlynedd o achos llygredd yr afon a'r posibilrwydd o gael afiechydon.
Ond mae trefnwyr y gemau wedi buddsoddi tua £1.2 biliwn i wneud y Seine yn ddiogel i'r athletwyr allu nofio yn yr afon.
Llun: Wochit