Arweinydd Hamas Ismail Haniyeh wedi’i ladd, meddai’r grŵp
Mae un o brif arweinwyr Hamas, Ismail Haniyeh, wedi’i ladd yn Iran, meddai’r grŵp.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Hamas fod Haniyeh wedi’i ladd mewn cyrch gan Israel ar ei gartref yn Tehran.
Yn ôl y grŵp, bu farw Haniyeh ar ôl cymryd rhan yn seremoni urddo arlywydd newydd Iran, Masoud Pezeshkian.
Roedd Haniyeh wedi bod yn un o brif arweinwyr Hamas, sef y grŵp Palesteinaidd sy'n rheoli Gaza, am bron i ddau ddegawd.
Ers ymosodiad Hamas ar Israel ar 7 Hydref, pan laddodd y grŵp tua 1,200 o Israeliaid a chymryd tua 250 o bobl eraill yn wystlon, mae arweinwyr Israel wedi addo dial ar swyddogion Hamas. Yn y 10 mis ers hynny, mae Israel wedi lladd bron i 40,000 o Balesteiniaid.
Ar hyn o bryd, nid yw Israel wedi hawlio cyfrifoldeb am ladd Haniyeh.
Daw ei lofruddiaeth honedig oriau'n unig ar ôl i Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) ddweud eu bod wedi lladd un o arweinwyr Hezbollah, Fouad Shukur, mewn streic awyr ym mhrifddinas Libanus, Beirut, nos Fawrth.
Dywedodd yr IDF eu bod wedi ei dargedu gan mai ef oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn Golan Heights ddydd Sadwrn, sydd wedi ei feddiannu gan Israel.
Cafodd 12 o blant a phobl ifanc eu lladd yn dilyn yr ymosodiad ar gae pêl-droed.
Llun: Wochit