Newyddion S4C

Heddlu 'wedi paratoi' ar gyfer rhagor o wrthdaro yn Southport

31/07/2024

Heddlu 'wedi paratoi' ar gyfer rhagor o wrthdaro yn Southport

Mae Prif Gwnstabl Glannau Mersi'n dweud fod y llu "wedi paratoi" rhag ofn y bydd rhagor o drafferthion yn Southport nos Fercher.

Cafodd 54 o swyddogion heddlu eu hanafu yn dilyn gwrthdaro gydag eithafwyr asgell-dde nos Fawrth - oriau'n unig ar ôl i wylnos gael ei chynnal i gofio'r tair merch a fu farw mewn ymosodiad.

Roedd aelodau o Heddlu'r Gogledd ymhlith y swyddogion fu'n cynorthwyo yn ystod y trafferthion. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Serena Kennedy:"Yn amlwg, rydan ni'n cynllunio ar gyfer heno a'r penwythnos. Rydan ni wedi cael cefnogaeth gan heddluoedd ar draws y gogledd-orllewin, er mwyn sicrhau fod gennym ni ddigon o adnoddau fel nad ydan ni'n gweld digwyddiadau tebyg i neithiwr."

Dywedodd fod rhwng  200 a 300 o bobl wedi cymryd rhan yn y gwrthdaro. Mae pedwar o ddynion wedi eu harestio hyd yma, ond dywedodd y Prif Gwnstabl bod disgwyl i'r nifer yna gynyddu.

"Mae'r ymchwiliad yn symud yn gyflym, a mae'n mynd yn dda," meddai.

Mae 8 o heddweision wedi dioddef anafiadau difrifol, gan gynnwys torri esgyrn, torri trwyn, rhwygiadau, a dioddef cyfergyd.

Roedd anafiadau eraill yn cynnwys un swyddog wedi ei guro'n anymwybodol, yn ogystal â rhai yn dioddef anafiadau i'r pen a'r wyneb. Cafodd tri chi heddlu eu hanafu hefyd, gyda brics wedi eu taflu at ddau ohonyn nhw.

Mae'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jenny Sims wedi apelio ar unrhyw un sydd a thystiolaeth fideo o'r gwrthdaro i gysylltu a'r heddlu.

“Mae'r diffyg parch tuag at deuluoedd sy'n galaru, a'r gymuned leol yn warthus. Rydw i eisiau sicrhau pobl Southport y bydd yna gynnydd sylweddol ym mhresenoldeb yr heddlu yn y dref yn ystod y dyddiau nesaf," meddai. 

Roedd protestwyr oedd wedi bod yn llafarganu sloganau adain-dde eithafol wedi gwrthdaro gyda’r heddlu ar Stryd St Luke’s yn y dref, y tu allan i fosg.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod “grŵp mawr o bobol yr ydym yn credu sy’n gefnogwyr i'r English Defence League” wedi dechrau taflu pethau at y mosg.

Gwisgodd swyddogion helmedau ac offer terfysg ar ôl i gerrig a photeli gael eu taflu tuag atyn nhw ac fe gafodd cerbydau heddlu eu difrodi a'u rhoi ar dân.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi y bydd swyddogion ychwanegol yn aros yn yr ardal "er mwyn darparu presenoldeb gweladwy a thawelu meddwl cymunedau".

'Torcalonnus'

Meddai’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Alex Goss: “Mae’n dorcalonnus gweld hyn yn digwydd o fewn cymuned sydd wedi dioddef colli tri bywyd ifanc.

“Mae yna bobol yn gweithredu yn Southport heno sydd ddim yn byw yn ardal Glannau Mersi nac yn malio dim am bobol Glannau Mersi.”

Bu farw Alice Dasilva Aguiar, naw, Bebe King, chwech, ac Elsie Dot Stancombe, saith, ar ôl cael eu trywanu yn Southport, Glannau Mersi, ddydd Llun.

Fe wnaeth wyth o blant eraill ddioddef anafiadau trywanu ac mae pump mewn cyflwr difrifol, ac mae dau oedolyn wedi eu hanafu’n ddifrifol hefyd, meddai’r heddlu.

Mae bachgen 17 oed nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol yn parhau yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a cheisio llofruddio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.