Huw Edwards yn cyrraedd y llys wedi'i gyhuddo o greu delweddau anweddus o blant
Huw Edwards yn cyrraedd y llys wedi'i gyhuddo o greu delweddau anweddus o blant
Mae cyn-gyflwynydd y BBC, Huw Edwards, wedi cyrraedd y llys ddydd Mercher wedi'i gyhuddo o dri achos o greu delweddau anweddus o blant.
Yn ôl dogfen y llys, mae Huw Edwards wedi ei gyhuddo o gael chwe delwedd categori A, 12 delwedd categori B a 19 delwedd categori C ar WhatsApp.
Fe wnaeth y darlledwr 62 oed adael y BBC ym mis Ebrill.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met: “Mae Huw Edwards, 62, o Southwark, Llundain wedi’i gyhuddo o dri achos o wneud delweddau anweddus o blant yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu’r Met.
“Credir fod y troseddau honedig wedi digwydd rhwng Rhagfyr 2020 ac Ebrill 2022 ac maen nhw'n ymwneud â delweddau a rannwyd ar sgwrs WhatsApp.
“Cafodd Edwards ei arestio ar 8 Tachwedd 2023. Cafodd ei gyhuddo ddydd Mercher, 26 Mehefin ar ôl i'r cyhuddiadau gael eu hawdurdodi gan Wasanaeth Erlyn y Goron."
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.