'Heriau o hyd' er bod 'gwelliant' yng ngwasanaethau mamolaeth ysbyty
'Heriau o hyd' er bod 'gwelliant' yng ngwasanaethau mamolaeth ysbyty
Mae 'problemau o hyd' er bod 'gwelliant' yng ngwasanaethau mamolaeth Ysbyty Singleton yn Abertawe, yn ôl adroddiad newydd.
Cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) adroddiad ddydd Mercher wedi arolygiad o'r uned famolaeth yn yr ysbyty.
Wedi arolygiad blaenorol ym mis Medi'r llynedd, nododd arolygwyr sawl pryder o ran diogelwch cleifion. Cafodd hysbysiad gwella ei gyhoeddi ar unwaith i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Yn sgil y risgiau a gafodd eu nodi, cafodd arolygiad pellach ei gynnal gan AGIC ym mis Ebrill eleni am dri diwrnod yn olynol.
Nododd yr arolygwyr fod "gwelliannau sylweddol" wedi eu gwneud ers yr arolygiad diwethaf. Er hynny mae yna "heriau o hyd" ac mae yna angen sicrhau bod menywod sy'n rhoi genedigaeth yn cael "gofal cyson o safon dderbyniol".
Ychwanegodd arolygwyr fod staff yn gweithio'n galed i sicrhau profiad cadarnhaol i fenywod a'u teuluoedd wrth roi genedigaeth.
Dywedodd aelodau o'r staff bydwreigiaeth wrth arolygwyr nad oedd cyfarpar meddygol hanfodol bob amser ar gael i'w galluogi i roi gofal digonol i gleifion.
Ychwanegodd yr adroddiad fod rhai o'r materion a gafodd eu nodi yn yr arolygiad wedi cael eu datrys yn gyflym gyda newidiadau yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith.
Yn ôl arolygwyr, roedd yr uned famolaeth yn "lân ac yn daclus" gydag amrywiaeth o fentrau i gefnogi menywod a staff gan gynnwys bydwraig ddiogelu a bydwraig iechyd meddwl arbenigol.
Dwyieithrwydd
Ond nododd yr arolygwyr nad oedd yr holl wybodaeth ar gael yn ddwyieithog. Mae'r adroddiad yn nodi fod angen i'r bwrdd iechyd wella'r arddangosiadau er mwyn "sicrhau y caiff y Gymraeg ei hybu fel rhan o'r cynnig rhagweithiol".
Dywedodd rhai aelodau o staff wrth arolygwr nad oeddent yn teimlo fod digon o gyfleoedd iddynt roi adborth i'r uwch-dimau arwain.
Fe wnaeth yr arolygwyr gydnabod fod y cofnodion oedd yn cael eu cadw yn yr uned famolaeth "o safon ddigonol" a chynlluniau gofal "yn cael eu dogfennu'n dda rhwng y timau amlddisgyblaethol".
Dywedodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Alun Jones: "Mae ein gwaith wedi nodi heriau parhaus yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Er ein bod wedi nodi gwelliannau yn ystod ein harolygiad dilynol, mae angen cymryd camau pellach.
"Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cyflymu'r camau a gymerir i ysgogi gwelliannau amserol, nid yn unig i'r cleifion, ond hefyd i staff yr uned famolaeth. Byddwn yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y caiff gwelliannau cadarn eu gwneud ac y ceir tystiolaeth o'r gwelliannau hynny."