Merch sylwebydd rasio yn fyw gyda saeth bwa croes yn ei brest pan gyrhaeddodd yr heddlu
Roedd merch y sylwebydd rasio John Hunt, a fu farw mewn ymosodiad yn ei chartref, yn dal yn fyw gyda saeth bwa croes yn ei brest pan gyrhaeddodd yr heddlu.
Fe gafodd cwest i'w marwolaeth hi, ei chwaer a'u mam ei agor yn Sir Hertford ddydd Mawrth.
Llwyddodd Hannah Hunt, 28, i anfon neges destun yn apelio am gymorth, gan ddweud ei bod hi wedi cael ei "chlymu" yng nghartre'r teulu yn Bushey Sir Hertford ar 9 Gorffennaf.
Clywodd y gwrandawiad byr bod y neges yn nodi bod y person a oedd yn gyfrifol yn dal i fod yn y tŷ.
Yna llwyddodd Ms Hunt i ffonio 999, gan ddweud ei bod hi, ei mam a'i chwaer wedi cael eu saethu, yn ôl yr hyn a gafodd ei adrodd yn Llys y Crwner.
Fe nododd Ms Hunt ei chyfeiriad cyn i'r alwad ddod i ben.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu y cartref, roedd Hannah Hunt yn fyw wrth brif ddrws y cartref, gyda saeth bwa croes yn ei brest, clywodd y crwner.
Bu farw Carol Hunt, 61, ar ôl iddi gael ei thrywanu yn ei brest a'i stumog, tra bod ei merched Hannah a Louise, 25 wedi marw yn sgil anafiadau gan fwa croes, yn ôl yr hyn a gafodd ei gofnodi yn y gwrandawiad.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r broses gyfreithiol barhau.
Dyw'r heddlu yn dal ddim wedi llwyddo i holi Kyle Clifford, y dyn sy'n cael ei amau o'u lladd, ers iddo gael ei arestio.
Bu chwilio mawr am Kyle Clifford, a chafodd ei ddarganfod bedair awr ar hugain yn ddiweddarach wedi ei anafu yn Enfield, gogledd Llundain.
Mewn teyrnged, dywedodd Mr Hunt a'i drydedd ferch Amy nad oedd modd cyfleu mewn geiriau yr hunllef y maen nhw'n ei brofi.