Newyddion S4C

Amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam i dderbyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau

30/07/2024
Crys John Charles ac Amgueddfa Genedlaethol Pel-droed

Bydd miliynau o bunnoedd yn cael ei fuddsoddi yn yr amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam sydd yn cynnwys crysau ac eitemau pwysig  yn gysylltiedig â hanes y gamp yng Nghymru.

Mae'r buddsoddiad o £2.7 miliwn ar gyfer Amgueddfa Dau Hanner yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan y Loteri Cenedlaethol ar gyfer rhai amgueddfeydd ar hyd a lled y DU.

Ar hyn o bryd mae'r adeilad ar Stryd Regent yn gartref i Amgueddfa Wrecsam a bydd y buddsoddiad yn mynd tuag at ei hadnewyddu yn ogystal â phrosiect Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol newydd sbon yng Nghymru.

Bydd yr amgueddfa’n gartref i arddangosfa barhaol o gasgliad pêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers 24 mlynedd, gan arddangos casgliad sy’n cofnodi dros 4,000 o flynyddoedd o hanes.

Yn rhan o'r casgliad mae crys gêm gyntaf un o chwaraewyr gorau Cymru erioed, John Charles ar gyfer gêm Cymru v Iwerddon ym mis Mawrth 1950, a chap a gafodd ei gyflwyno i Billy Meredith.

Image
Crys Gareth Bale a chap Billy Meredith
Crys Cymru Gareth Bale yn erbyn Gwlad Pwyl yn 2022 a chap cyntaf Billy Meredith yn 1910. Llun: Amgueddfa Pêl-droed Genedlaethol Wrecsam

Hefyd bydd casgliad yn ymwneud â buddugoliaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan FA 1927 ac amrywiaeth o raglenni gemau rhyngwladol dynion Cymru, y cynharaf yn dyddio o 1901.

'Prosiect uchelgeisiol a chyffrous'

Dywedodd Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, y Cynghorydd Paul Roberts bod y buddsoddiad yn helpu i ddathlu hanes pêl-droed "cyffrous" Cymru.

“Dyma newyddion enfawr i Wrecsam. Mae'r amgueddfa newydd ar fin dod yn atyniad cenedlaethol newydd o bwys i'r ddinas, gan ddenu ymwelwyr newydd o bob cwr o Gymru a thu hwnt, a chwarae rhan allweddol wrth wraidd arlwy twristiaeth a diwylliannol cynyddol Wrecsam.

“Hoffem ddiolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Cenedlaethol am eu cefnogaeth amhrisiadwy ac am eu hymrwymiad i gefnogi’r prosiect uchelgeisiol a chyffrous hwn.

"Bydd yr arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ein helpu i drawsnewid un o adeiladau tirnod ein dinas yn lleoliad o safon fyd-eang lle y caiff hanes cyfoethog ein bwrdeistref sirol ei ddathlu ochr yn ochr â stori gyffrous pêl-droed Cymru, wedi’i warchod i’w ddarganfod gan genedlaethau’r dyfodol ac i'w fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.