
Gemau Olympaidd: Jeremiah Azu eisiau gwneud pobl Cymru'n 'falch'

Bydd Jeremiah Azu, y Cymro cyntaf i redeg ras 100m yn y Gemau Olympaidd ers hanner canrif yn cystadlu ym Mharis ddydd Sadwrn.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r Cymro sy'n byw yn Nhredelerch, Caerdydd wedi bod yn rhedeg ar ei orau.
Ef yw'r Cymro cyntaf i redeg 100m mewn llai na 10 eiliad, a hynny gydag amser o 9.97 ym mis Mai yn Yr Almaen.
Bellach mae'r dyn 23 oed yn llygadu medal yn y Gemau Olympaidd ac mae'r daith honno yn dechrau ymhen ychydig ddyddiau.
"Dwi mor gyffrous. Dim ond bob pedair blynedd mae'r Gemau Olympaidd yn digwydd.
"Mae fy ngyrfa i gyd wedi adeiladu at y pwynt yma, felly dwi'n canolbwyntio ar yr hyn sydd o flaen fi," meddai wrth ITV Cymru.
"Mae popeth sydd wedi digwydd hyd yma wedi fy ngalluogi i fod yma, felly dwi'n ddiolchgar am y daith dwi wedi bod arni."
'Diolch i bawb yng Nghymru'
Azu yw'r unig Gymro sydd yn rhan o dîm athletau Prydain eleni.
Bydd yn cystadlu yn y ras 100m ac yn y ras cyfnewid 100m hefyd.
Wrth i ddiwrnod y cystadlu agosáu, mae'r Cymro yn dweud y bydd yn trin y ras fel unrhyw gystadleuaeth arall.
"Mae rhaid i mi ei drin fel unrhyw ras arall. Ddylai'r posibilrwydd o fedal ddim newid fy agwedd.

"Byddai'n dweud wrth fy hun mai ras 100m arall yw e, mae dy deulu yna i dy gefnogi, cer allan a mwynha dy hun'.
"Dwi eisiau atgofion da o'r bencampwriaeth hon.
"I bawb yng Nghymru, diolch am fy nghefnogi, diolch am gredu ynof i.
"Dwi'n gobeithio byddai'n gwneud i chi deimlo'n falch wrth chwifio baner Cymru,mae wedi bod yn hanner ganrif ers i Gymro redeg felly gobeithio byddwch chi'n derbyn pwy ydw i ac yn falch pan fyddwch yn gweld fi ar y sgrin."
Bydd Jeremiah Azu yn cystadlu yn y 100m am 09:35 fore Sadwrn, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ddydd Sul am 20:50.
Prif lun: Wochit