Un mewn pump o lefydd bwyd heb gael eu harolygu ers dwy flynedd
Mae risg uwch o wenwyn bwyd a phroblemau iechyd difrifol i'r cyhoedd oherwydd "argyfwng mewn diogelwch bwyd" yn ôl ymchwiliad newydd.
Mae'r ymchwiliad gan y BBC yn dangos nad yw un o bob pump o fwytai a siopau takeaway wedi cael eu harolygu gan arolygwyr bwyd ers mwy na dwy flynedd.
Cafodd dros 250,000 o lefydd bwyd eu cofnodi ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn y DU, ond nid yw 53,000 wedi cael eu harolygu ers 2021.
Timau a gyflogir gan gyngorau sydd yn graddio safleoedd. Maen nhw'n craffu ar bethau fel glendid, rheoli pla a storio bwyd yn ddiogel - gan roi sgôr rhwng sero yn yr achosion gwaethaf a phump yn yr achosion gorau.
Mae ganddyn nhw hefyd y pŵer i erlyn a chau busnesau i lawr mewn amgylchiadau eithafol.
Daw’r ymchwiliad yn ystod cyfnod o bryder am ddiogelwch bwyd yn dilyn achos o E-coli ym mis Mehefin oedd yn gysylltiedig â chynnyrch halogedig.
Yn ôl undeb y gwasanaethau cyhoeddus, Unison mae'n "fater iechyd cyhoeddus difrifol."
“Mae archwiliadau bellach wedi’u gohirio cymaint fel ei bod hi’n berffaith bosibl i fusnesau bwyd sydd ag arferion hylendid gwael weithredu heb fawr o ofn o gael eu dal," medden nhw.
Mae canllawiau'n nodi y dylai'r rhan fwyaf o safleoedd bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gael eu harchwilio rhwng chwe mis a dwy flynedd yn dibynnu ar lefel y risg.
Fe allai busnesau risg isel iawn fel fferyllfeydd a siopau llysiau gael eu harchwilio bob tair blynedd.
'Diffyg buddsoddiad'
Mae Emily Miles, prif weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), sy’n goruchwylio arolygiadau hylendid bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dweud fod cynghorau dal heb lwyddo i fynd trwy'r rhestr aros o arolygiadau risg uchel a aeth yn waeth yn ystod pandemig Covid-19.
Mae'r asiantaeth yn pryderu nad yw lleoliadau risg is a lleoliadau newydd yn cael eu gwirio.
“Mae’n rhywbeth a allai ddatblygu'n araf i fod yn sefyllfa anghyfforddus a di-fudd," meddai Miss Miles.
"Mae gennym ni safonau bwyd uchel yn y wlad hon - ond mae'n rhywbeth na fyddwch chi'n gwybod bod gennych chi nes iddo fynd."
Dywedodd llefarydd ar ran Safonau Bwyd yr Alban bod angen diwygio’r system.
“Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i flynyddoedd o ddiffyg buddsoddiad yn yr hyn a oedd yn arfer bod yn system eithaf da," meddai.
Yn ôl llefarydd ar gyfer adran Llywodraeth Leol a Chymunedau Tai Llywodraeth y DU, sy'n goruchwilio y mater yn Lloegr, fe fyddan nhw yn "rhoi'r llywodraeth leol yn ôl ar ei draed trwy wneud y pethau sylfaenol yn iawn".
Byddant yn adolygu'r system archwiliad ac yn rhoi mwy o sefydlogrwydd ariannol i gynghorau medd y llefarydd.