Protestio ar raddfa fawr yn Venezuela dros ganlyniad etholiad arlywyddol
Mae'r heddlu yn Venezuela wedi tanio nwy dagrau a bwledi rwber yn erbyn pobol sydd wedi bod yn protestio dros ganlyniad etholiad arlywyddol y wlad.
Nos Lun fe wnaeth miloedd o bobl ymgynnull i brotestio yng nghanol prifddinas y wlad, Caracas. Roedd rhai wedi cerdded milltiroedd o'r slymiau ar y mynyddoedd o amgylch y ddinas tuag at y palas arlywyddol.
Mae'r Arlywydd Nicolás Maduro yn honni ei fod wedi ennill yn yr etholiad.
Ond mae'r gwrthbleidiau yn dadlau bod twyll wedi digwydd ac mai'r ymgeisydd Edmundo González sydd yn fuddugol gyda 73.2% o'r bleidlais.
Roedd presenoldeb milwrol a heddlu arfog gyda chanonau dŵr ar strydoedd Caracas. Y nod oedd ceisio gwasgaru protestwyr a’u hatal rhag mynd at y palas arlywyddol.
Roedd torfeydd o bobl yn bloeddio “Rhyddid, rhyddid!”.
Roedd lluniau'n dangos olwynion ceir yn llosgi ar y priffyrdd a'r heddlu ar feiciau modur yn tanio nwy dagrau at bobl.
Mewn rhai ardaloedd, cafodd posteri’r Arlywydd Maduro eu rhwygo a’u llosgi tra bod ceir a sbwriel hefyd wedi’u rhoi ar dân.
Llun: Wochit