Newyddion S4C

Perfformiad opera i nodi 90 mlynedd ers trychineb glofa Gresffordd

29/07/2024

Perfformiad opera i nodi 90 mlynedd ers trychineb glofa Gresffordd

"The most terrible colliery disaster since the war occurred in Gresford."

Medi 1934 a thanchwa'n rhwygo trwy'r twneli o dan ddaear.

Er gwaetha'r ymdrech achub, o fewn deuddydd penderfynwyd bod y tannau a'r perygl o ragor o ffrwydradau yn ei gwneud hi'n amhosib parhau ac yn amhosib cyrraedd y meirw.

"The crowds are waiting for news of a husband, father."

Collodd 266 eu bywydau ac mae 253 o gyrff wedi eu gadael yno hyd heddiw.

90 mlynedd yn ddiweddarach cofio'r digwyddiad a'r effaith hir ar y gymuned ydy bwriad opera newydd.

A'r cantorion lleol yma yn ymarfer yn Eglwys Gresffordd i'w perfformiad cyntaf yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru.

"Mae'n bwysig cofio fod 'na ardal lofaol wedi bod o amgylch Wrecsam.

"Bod llefydd fel Gresffordd 'di cael eu dylanwadu mor ofnadwy fel hyn.

"Mae gynnon ni ddyletswydd cofio am y rhai gollodd eu bywydau... y teuluoedd gafodd eu heffeithio ac i dalu teyrnged iddyn nhw."

Mae'r cerddorion sy'n gyfrifol am y gerddoriaeth... y brodyr, Jonathan a Robert Guy yn hanu o ardal Wrecsam a'u chysylltiad teuluol a'r diwydiant glo.

Ond mae'r prosiect yn denu o ledled y gogledd ac o bob oed.

Gyda phlant o Wynedd a Môn hefyd yn perfformio.

"Yn bwysicach na dim ydy'r profiad o gael cyd-chwarae efo cerddorion proffesiynol ochr yn ochr efo cerddorion sydd yn gwneud bywoliaeth drwy gerddoriaeth.

"Mae'n rôl fodelu i ddisgyblion bod 'na yrfa i gael fel hyn."

"Men from the surrounding pits ceased work and rushed to help in the task of rescue."

Cafodd 200 eu gadael yn weddw, 800 yn ddi-dad gan y drychineb.

Roedd miloedd yn ddi-waith am fisoedd gan fod y pwll ar gau.

Son bod dynion wedi colli hanner eu cyflog am beidio cwblhau'r shifft.

Dadorchuddiwyd y gofeb yma yn 1982, hanner canrif ar ôl y drychineb.

Yn lleol, mae'r ymdrechion i gofio'n gyson yn parhau.

Ond mae 'na deimlad bod y drychineb yn haeddu rhagor o sylw.

"Pan dach chi'n holi pobl am Gresford yn aml chi'n cael anwybodaeth am y peth.

"Er gwaetha'r ffaith bod hi'n drychineb ofnadwy.

"Rhan o'r bwriad oedd trio atgoffa pobl pa mor wael oedd hyn a'r camwedd ac effaith hyn ar y gymuned.

"Ac i sicrhau bod hyn yn aros yn rhan o gof cyffredin."

Bydd opera Gresffordd i'r Goleuni Nawr yn cael ei pherfformio gyntaf ar 12 Medi yng Nghadeirlan Llanelwy a'r hanes yn cael ei weld a'i glywed ar ffurf newydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.