Dileu Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer nifer fawr o bensiynwyr
Fydd pensiynwyr ddim yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf o hyn ymlaen oni bai eu bod yn hawlio budd-daliadau.
Wrth gyhoeddi ei blaenoriaethau ariannol, dywedodd y Canghellor Rachel Reeves mai pensiynwyr ar gredydau pensiwn neu fudd-daliadau eraill yn unig, fydd ym gymwys i dderbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf.
Cafodd y taliad sydd rhwng £100 a £300 ei roi i 11.3 miliwn o bensiynwyr yn y DU yn ystod gaeaf 2022-23, i'w cynorthwyo gyda biliau tanwydd.
Wrth gyhoeddi ei chynlluniau yn Nhŷ'r Cyffredin, bedair wythnos ers dechrau yn ei swydd, dywedodd y Canghellor bod y Llywodraeth Lafur wedi etifeddu gor wariant oddi ar y Ceidwadwyr, a thaw £22 biliwn yw'r swm sy'n cael ei amcangyfrif.
Ychwanegodd bod gor wariant o £6.4bn eleni ym maes lloches i fewnfudwyr, sy'n cynnwys y cynllun i anfon mudwyr i Rwanda. Mae'r Llywodraeth Lafur wedi cael gwared â'r cynllun hwnnw bellach.
Mae hi wedi canslo sawl prosiect ar gyfer ffyrdd a rheilffyrdd.
Dywedodd Canghellor yr wrthblaid, Jeremy Hunt bod Rachel Reeves heb unrhyw "gywilydd" yn blaenaru'r tir ar gyfer codi trethi yn y gyllideb fis Hydref.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhai gweithwyr yn y sector gyhoeddus yn derbyn codiad cyflog.
Bydd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn derbyn codiad cyflog o 4.75% gyda gweithwyr yn y gwasanaeth carchardai yn derbyn 5% o gynnydd.