Dyn 21 oed o Ferthyr Tudful wedi marw ar wyliau yn Benidorm

Cafodd dyn 21 oed ei ddarganfod yn farw yn ystafell ei westy gan ffrindiau tra’r oedd ar wyliau yn Sbaen, clywodd cwest ddydd Llun.
Roedd Harvey Dominy, o Ferthyr Tudful, wedi ymweld â Benidorm am wyliau gyda'i ffrindiau yn gynharach ym mis Gorffennaf.
Gadawodd ei griw o ffrindiau’r gwesty tua 7pm nos Fawrth, 16 Gorffennaf.
Pan wnaethon nhw ddod yn ôl rai oriau’n ddiweddarach fe wnaethon nhw ddod o hyd i Mr Dominy ar y llawr heb guriad calon.
Clywodd Llys y Crwner ym Mhontypridd bod y gwasanaethau brys wedi eu galw ond fe gyhoeddwyd bod Mr Dominy wedi marw yn y fan a'r lle.
Yr amcangyfrif oedd ei fod wedi marw rywbryd rhwng 9pm a 10.30pm y noson honno.
Cafodd ei adnabod gan ei ffrindiau a chynhaliwyd archwiliad post-mortem ond nid oedd achos ei farwolaeth yn glir.
Gohiriwyd y cwest gan grwner cynorthwyol canol de Cymru Kerrie Burge hyd nes y daw rhagor o wybodaeth i law gan awdurdodau Sbaen.