Newyddion S4C

Addo ‘hwb £16m i’r economi’ o ganlyniad i’r Eisteddfod

Eisteddfod Pontypridd

Mae arweinwyr cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud bod disgwyl i’r economi leol weld hwb o £16m wrth i’r Eisteddfod ymweld â'r sir yr wythnos nesaf.

Mae’r cyngor wedi buddsoddi £175,000 yn yr ŵyl ac “am bob £1 a wariwyd gan y Cyngor, mae disgwyl y bydd bron i £60 yn cael ei roi yn ôl i'r economi leol” medden nhw.

Mae disgwyl y bydd 160,000 o ymwelwyr yn dod i Rondda Cynon Taf a Phontypridd, gan gefnogi busnesau lleol, yn ystod yr wythnos, medden nhw.

Mae nifer o'r strwythurau wedi'u codi ar Faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf cyn dechrau’r ŵyl ddydd Sadwrn.

"Bydd yr Eisteddfod yn rhoi hwb enfawr i fusnesau lleol, ac rydyn ni'n gobeithio, unwaith y bydd ymwelwyr yn gweld yr hyn sydd gyda ni i'w gynnig yn Rhondda Cynon Taf, y byddan nhw'n parhau i ymweld yn y blynyddoedd i ddod,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Mae'r Eisteddfod yn ddigwyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Cymru gyfan i Rondda Cynon Taf.

"Waeth beth yw eich gallu yn y Gymraeg, mae rhywbeth at ddant pawb, a gobeithiwn y bydd trigolion lleol yn manteisio ar Eisteddfod ar eu stepen drws."

Dywedodd y cyngor bod y £275,000 wedi mynd ar wariant gan gynnwys darparu tocynnau ar gyfer Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog, cyfleusterau Parcio a Theithio, rheoli traffig, a chostau staffio fel y Garfan Cymunedau Diogel.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar Barc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.