Newyddion S4C

‘Mae’n sbesial i fi’: O gasáu dysgu’r iaith i fod yn diwtor Cymraeg llawn amser

‘Mae’n sbesial i fi’: O gasáu dysgu’r iaith i fod yn diwtor Cymraeg llawn amser

Doedd Elinor Staniforth ddim yn mwynhau dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol ond bellach mae’n diwtor Cymraeg ac yn addysgu siaradwyr newydd.

Mae’r tiwtor 27 oed o Gaerdydd yn un o’r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.

Cyn dechrau ar ei thaith i ddysgu'r Gymraeg doedd hi ddim yn hoff o'r iaith, ond fe newidiodd hynny ar ôl mynd i astudio yn y brifysgol.

"Fi'n dod o teulu di-Gymraeg, nes i tyfu lan yn Caerdydd, so nes i TGAU a phethau yn yr ysgol, ond do'n i ddim yn hoffi yr iaith o gwbl," meddai wrth Newyddion S4C.

"Wedyn, es i i brifysgol yn Lloegr, es i Prifysgol Rhydychen. Ag o'n i'n un allan jyst o gwpl o bobl oedd yn dod o Gymru. 

"Pan nes i gyrraedd o'n i'n rili colli Cymru a dechrau teimlo fel  'ie dylen i wedi dysgu Cymraeg yn well.'"

Image
Elinor Staniforth a'i ffrindiau yn y brifysgol
Elinor (canol) gyda'i chyd-fyfyrwyr yn y brifysgol. Llun: Elinor Staniforth

Dechreuodd ddysgu'r Gymraeg ar ôl ei chyfnod yn y brifysgol, cyn i bandemig Covid-19 ddechrau.

Fe wnaeth y cyfnod clo ei helpu i ganolbwyntio ar ddysgu'r iaith, ac mae'n bosib na fyddai wedi gwneud heblaw am y cyfnod hynny.

"Fi'n siŵr os doedd y pandemig ddim 'di digwydd falle faswn i wedi stopio neu rywbeth, ond oedd y pandemig yn helpu fi i ganolbwyntio arno fe achos doedd dim lot arall i wneud. 

"Oedd e'n challenge yn y dechrau ond, be fi' di dysgu trwy dysgu'r iaith yw bod pethau fel treigladau a stwff, does dim ots amdanyn nhw pan 'da chi'n dechrau. 

" 'Da chi'n gallu jyst dweud be' ti'n gallu dweud a wedyn bydd pethau'n dod ar ôl tipyn bach o amser. Y mwy 'da chi'n siarad y mwy 'da chi'n neud pethau wedyn, mae'r iaith yn dod."

'Rhannu'r profiad'

Ar ôl dysgu'r iaith fe benderfynodd Elinor ei bod hi eisiau addysgu'r iaith i eraill.

Fe gychwynnodd ar gwrs er mwyn bod yn diwtor Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ym 2022 ac mae bellach yn diwtor Cymraeg.

Ei chymhelliant tu ôl y penderfyniad oedd rhannu ei phrofiad hi o ddysgu'r Gymraeg gydag eraill.

"Ro'n i eisiau wedyn dysgu pobl eraill a rhannu y profiad 'na gyda phobl eraill. 

"So es i trwy cwrs meistr yn Astudiaethau Cymraeg a wedyn nes i hyfforddi i fod yn tiwtor, so ro'n i'n gweithio llawn amser fel tiwtor, a hyfforddi ar yr un pryd."

"Roedd e'n rili anodd rhaid i fi ddweud, r'on i dal yn dysgu ar y pryd.

"Fel fi'n dweud i dysgwyr fi, dylet ti ddim poeni am fod yn berffaith, mae'n yr un peth dylwn i ddweud i fy hun, 'paid a poeni am fod yn berffaith'. 

"Os dwi'n neud camgymeriad mae'n iawn, dyw y dysgwyr ddim yn mynd i fod fel 'dylet ti fod y person gorau yn y byd'. Mae'n okay i gwneud camgymeriadau a wedyn sylweddoli, wedyn cywiro dy hun."

Image
Elinor Staniforth gyda tiwtoriaid y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Tiwtoriaid Yfory: Elinor Staniforth (blaen, dde) gyda thiwtoriaid eraill Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Llun: Elinor Staniforth

Er bod Elinor yn dysgu o fewn cyffiniau ystafell ddosbarth, mae hi'n awyddus i bobl ddysgu a defnyddio'r iaith yn ehangach.

Pe bai hynny trwy wrando ar gerddoriaeth neu ddarllen llyfrau, mae ffyrdd tu allan i'r ystafell ddosbarth i ddysgu'r Gymraeg sydd yn hwyl, meddai Elinor.

"Mae'n ffordd o siarad, ac mae modd i cael mewn i gerddoriaeth Cymraeg neu darllen yn Gymraeg. 

"Dyw e ddim jyst gwers lle rhaid i ti feddwl 'o fi angen dweud hyn yn gywir iawn', mae'n mwy na hwnna, so triwch ffeindio ffyrdd o dysgu sy'n hwyl sydd ddim jyst dysgu allan o cwrs lyfr."

'Deall pwy ydw i'

Wrth drafod effaith y Gymraeg ar ei ffordd o fyw, mae Elinor yn dweud fod ei bywyd wedi newid am y gorau oherwydd y Gymraeg.

"Fi'n teimlo fel fi'n nabod pwy ydw i nawr yn well. R'on i wastad yn teimlo fel fi'n Cymraes ond nawr fi'n rili deall y wlad 'ma'n well achos fi'n deall yr iaith, fi'n gallu edrych ar enwau llefydd a deall be' ma' nhw'n meddwl, a  fi'n gallu gwrando ar gerddoriaeth yn Gymraeg.

"Fi 'di dysgu am straeon Cymreig, fel stori allan o'r Mabinogion a pethau fel'na. So ma fe'n rili helpu fi deall pwy ydw i a lle dwi'n byw."

"Ond hefyd, fi 'di cwrdd â gymaint o bobl hyfryd. Mae rili 'di neud fy mywyd yn mwy gyfoethog, a fel faint mae'n gallu newid dy fywyd di os ti'n dysgu."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.