
Galw am newid i asesiadau taliadau PIP i bobl ag anableddau gydol oes
Galw am newid i asesiadau taliadau PIP i bobl ag anableddau gydol oes
Mae ymgyrchwyr yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i newid y ffordd maen nhw’n yn ail-asesu pobl sydd yn byw gydag anableddau gydol oes.
Mae taliad annibyniaeth personol, neu personal independence payment (PIP), yn gymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n mynd at dros 3.6 miliwn o bobl yng Nghymru a Lloegr sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, neu anabledd hirdymor.
Mae Craig Cox yn byw â’r cyflwr Limb Girdle Muscular Dystrophy – cyflwr oes, sy’n gwaethygu’n raddol dros amser. Mae e wedi bod yn derbyn taliadau PIP dros y blynyddoedd, i helpu ariannu pethau fel ei gar – sydd wedi ei addasu’n bwrpasol.
Ond ar ôl cyfweliad ail-asesiad gorfodol, daeth yr Adran Gwaith a Phensiynau i benderfyniad nad oedd angen y taliad arno rhagor, gan ei fod, meddai, yn "swnio’n iawn dros y ffôn".
“Dwi wedi colli annibyniaeth,” meddai Craig, o Bontypridd.
“Roeddwn i'n poeni a oeddwn i'n mynd i allu parhau i weithio, oherwydd dyna fy unig ddull o deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
"Doeddwn i ddim yn gwybod a fydden i'n dal i allu mynd â fy mhlant, casglu fy mhlant, gollwng fy mhlant, mynd ar ddiwrnodau allan oherwydd heb y car hwnnw roeddwn i rili wedi colli popeth.”

'Nid rhifau ar bapur'
Yn Ysbyty Treforys, mae’r ffisiotherapydd arbenigol niwrogyhyrol Heledd Tomos yn annog ei chleifion i ofyn am gymorth gan elusen neu arbenigwr meddygol wrth ymgeisio am y taliad.
“Mae 'na lot o waith papur, a hefyd mae'n broses eitha' negyddol achos ma' rhaid chi meddwl am popeth chi ffaelu neud, a ma' hynna'n anodd o ran chi'n trio 'neud eich gorau bob dydd i cario 'mlaen yn normal, heb gorfod meddwl am beth chi ffaelu neud trwy'r amser," meddai.
“Ie, mae dweud wrthon nhw wedyn bo' dim ishe taliad achos bo' nhw i weld yn well, ond bod eu cyflwr nhw actually wedi gwaethygu, ma’ hwnna’n eitha’ creulon, ond ‘yw e.”
Gwasanaeth mwy personol sydd ei angen yn ôl Craig.
“Ar ddiwedd y dydd, nid rhifau ar bapur ydyn ni; rydyn ni’n bobl â bywydau," meddai.
"Mae’r pŵer ganddyn nhw i ddifetha ein bywydau gyda chlic o’u bysedd, a dyw e ddim yn effeithio arnyn nhw.”
'Profi'
Mae'r elusen iechyd meddwl Mesen hefyd yn galw am newid.
"Mae o'n ffaith bod y cyflwr yma arnyn nhw am byth, a alla i ddim dweud mewn defnydd digonol o eiria pa mor anodd ydy hynan i dderbyn ynddo'i hun," meddai Sioned Erin Hughes o'r elusen.
"Heb gael rhywun o awdurdod uwch eich penna' chi wedyn yn dweud bod rhaid ei brofi o ymhellach."
Mynnu mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eu bod nhw’n cefnogi miliynau o bobol bob blwyddyn, ac mai eu blaenoriaeth nhw yw cynnig gwasanaeth cefnogol i bawb sy’n gymwys, cyn gynted ag a sy’n bosib.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda’r rhai sy’n cynnal yr asesiadau er mwyn gwella’r broses.
Mae apêl Craig, gyda help elusen Muscular Dystrophy UK, wedi llwyddo, ac mi fydd e nawr yn parhau i dderbyn y taliad, gan obeithio rhoi’r dryswch y tu ôl iddo.