Ffordd newydd o greu etholaethau wrth i seddi Senedd Cymru gael eu hadolygu eto
Mae'r comisiwn sy'n adolygu ffiniau etholaethau Senedd Cymru wedi cyhoeddi na fydd y seddi ar gyfer yr etholiad nesaf yn cael eu creu trwy baru'r etholaethau sy'n cael eu defnyddio yn San Steffan.
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi'r amserlen ar gyfer adolygiad newydd o etholaethau ar gyfer y Senedd ym Mae Caerdydd, gan amlinellu rhai o egwyddorion y broses.
Pan ehangodd Senedd Cymru a newid ei system bleidleisio cyn yr etholiad datganoledig yn gynharach eleni, fe gafodd y comisiwn y dasg o baru 32 etholaeth San Steffan at ei gilydd i greu'r 16 etholaeth newydd ar gyfer y Senedd.
Ond fydd yr arolwg newydd, sy'n anelu i ailwampio etholaethau unwaith eto cyn yr etholiad nesaf yn 2030, ddim wedi ei selio ar yr un egwyddorion.
Yn lle hynny, bydd y comisiwn yn defnyddio cwota etholiadol, sy'n golygu bod rhaid i bob etholaeth fod o fewn +/-10% o nifer cyfartalog yr etholwyr ledled Cymru.
Bydd ffiniau llywodraeth leol ac daearyddiaeth leol yn cael eu hystyried ond mae'n bosib bydd yr etholaethau terfynol yn edrych yn dra gwahanol i'r rhai presennol.
Mae enwau'r etholaethau hefyd yn rhan o ystyriaeth y comisiwn, gydag enwau uniaith Gymraeg yn debygol o gael eu defnyddio yn eang, fel yn y system bresennol.
Ymgynghori a chynigion cyn hir
Fe fydd y cynigion cychwynnol yn cael eu cyhoeddi ddechrau 2027, ac yn ysgogi cyfnod ymgynghori wyth wythnos lle y bydd pobl yn cael eu hannog i rannu eu hadborth.
Fe fydd y Comisiwn yna yn cyhoeddi'r sylwadau cyn cynnal ail gyfnod ymgynghori lle bydd pobl yn cael eu gwahodd i gefnogi neu wneud gwrth-ddadleuon i'r sylwadau a gafodd eu derbyn yn ystod yr ymgynghoriad cyntaf.
Yn dilyn yr ymgynghoriadau, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi fersiwn newydd o'r cynigion. Mae'r grŵp angen cyflwyno'r penderfyniadau terfynol i weinidogion Llywodraeth Cymru cyn 1 Rhagfyr 2028.
'Mwy o gyfle i bobl rannu eu barn'
Dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams: “Mae'r Comisiwn yn edrych ymlaen at gynnal Arolwg llawn ar gyfer etholaethau'r Senedd, gyda mwy o gyfle i bobl rannu eu barn a dylanwadu ar y cynigion.
“Pryd bynnag y bydd y Comisiwn yn cynnal Arolwg, mae adborth y cyhoedd, yn enwedig ar eu hardal leol, yn hanfodol i sicrhau bod ein penderfyniadau mor gryf â phosibl.
“Mae'r symudiad o baru etholaethau seneddol i ddefnyddio cwota etholiadol yn golygu y bydd angen rhai newidiadau yn yr Arolwg hwn, ond mae hefyd yn rhoi cyfle inni ymateb gyda mwy o hyblygrwydd i farn y cyhoedd, gan sicrhau ein bod yn lleihau newidiadau lle bynnag y gallwn.”
Cafodd system etholiadol newydd ei gyflwyno ar gyfer etholiad Senedd Cymru 2026, gyda phleidiau ac ymgeiswyr yn cyflwyno rhestrau etholiadol ar draws 16 o etholaethau, gyda phob un yn ethol chwe aelod i'r Senedd.
Fe wnaeth Plaid Cymru greu hanes drwy ennill yr etholiad ym mis Mai. Enillodd y blaid 43 o seddi - ychydig yn fyr o fwyafrif - ac nawr mae'n arwain llywodraeth am y tro cyntaf erioed.
Fe gafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd gyda naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith sedd, y Blaid Werdd â dwy sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio un sedd.