Newidiadau mawr i drefn ymateb y Gwasanaeth Ambiwlans i alwadau 999
Fe fydd galwadau 999 ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol yn cael eu trin yn wahanol fel rhan o newidiadau i drefn y Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wrth ymateb i alwadau brys.
Ymysg y newidiadau, bydd categori porffor newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ymateb i alwadau o’r math, lle mae bywyd yn y fantol.
Mae'r gwasanaeth yn ymateb i argymhelliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a ddaeth i'r casgliad nad yw'r targedau presennol yn briodol nac yn addas i'r diben bellach.
Yn ôl adolygiad dilynol, nid oes tystiolaeth bod y model ymateb presennol yn cefnogi canlyniadau gwell.
Cafodd y targed wyth munud ei gyflwyno ar gyfer ymateb ambiwlansys yn 1974 gan Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol y Deyrnas Unedig.
Mae canllawiau perfformiad presennol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn canolbwyntio ar gategori eang o alwadau coch ac yn mesur llwyddiant o ran yr amser y mae'n ei gymryd i ambiwlans ymateb i alwad 999 – nid ar ganlyniad terfynol yr unigolyn.
Os bydd ambiwlans yn cyrraedd ar ôl wyth munud a'r unigolyn yn goroesi, caiff hyn ei ystyried yn fethiant, ond os yw'r ambiwlans yn cyrraedd o fewn wyth munud a'r unigolyn yn marw, ystyrir bod hynny wedi cyrraedd y targed.
Bydd y newidiadau i'r targedau ymateb yn canolbwyntio ar ganlyniadau, yn enwedig i bobl sydd mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol.
Yn ôl y Llywodraeth, mae’r ffordd yma o weithredu eisoes yn cael ei defnyddio'n llwyddiannus yn Iwerddon, yr Alban ac Awstralia lle mae cyfraddau goroesi a chanlyniadau wedi gwella o ganlyniad.
Bydd y newidiadau i’r drefn yn sicrhau bod ambiwlansys yn “cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf,” yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles.
"Rydyn ni eisiau achub mwy o fywydau a gwella'r siawns y bydd pobl yn goroesi ataliad y galon yng Nghymru," meddai.
"Mae'r system bresennol yn trin rhywun sy'n cael ataliad y galon yr un fath â rhywun ag anawsterau anadlu cyffredinol sy'n aml yn gallu cael eu trin yn ddiogel gartref.
“Bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod clinigwyr ambiwlans yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyntaf, gan sicrhau bod pawb yn cael y gofal cywir yn ôl eu hanghenion clinigol."
‘Croesawu'
Bydd dau gategori ymateb newydd – categori porffor newydd ar gyfer ataliad y galon ac ataliad anadlol a chategori brys coch ar gyfer trawma mawr a digwyddiadau eraill lle mae person mewn perygl sylweddol o gael ataliad y galon neu ataliol anadlol os nad yw'n cael ymateb cyflym.
Mae disgwyl i ambiwlansys ymateb i alwadau 999 yn y ddau gategori o fewn chwech i wyth munud ar gyfartaledd.
Nod y drefn newydd yw gwella cyfraddau goroesi ar gyfer ataliad y galon sy'n digwydd y tu allan i'r ysbyty yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn llai na 5%.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Rydyn ni'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw am newid y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur perfformiad y gwasanaeth ambiwlans.
"Ers 1974, mae ein gwasanaeth ambiwlans wedi cael ei fesur yn ôl yr amser mae'n ei gymryd i gyrraedd galwadau brys.
"Mae gwasanaeth ambiwlans heddiw yn darparu gofal llawer mwy soffistigedig, felly mae symud y ffocws i faint o bobl sydd, oherwydd ein hymyriadau, yn goroesi argyfwng lle mae bywyd yn y fantol, yn hytrach na sawl munud mae'n ei gymryd inni gyrraedd yno, yn gam pwysig i adlewyrchu hynny.”
Mae Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gwneud newidiadau i'w model ymateb, gan gynnwys ychwanegu 26 llywiwr clinigol newydd a fydd yn sgrinio galwadau 999 i sicrhau eu bod yn cael yr ymateb cyflymaf posibl fel y gallant gael y gofal iawn, yn y lle iawn, bob tro.
Yn ogystal, bydd cynllun gweithredu i wella'r broses o drosglwyddo cleifion o'r ambiwlans i'r ysbyty yn cael ei gyflwyno i gynyddu nifer yr ambiwlansys sydd ar gael.
Bydd y system newydd yn cael ei threialu am flwyddyn o fis Gorffennaf 2025 ymlaen.