Newyddion S4C

Lluniau: Rhybudd ar ôl i beiriant sychu dillad fynd ar dân a dinistrio cegin

29/07/2024
Tan

Mae’r gwasanaethau brys wedi cyhoeddi rhybudd wedi i beiriant sychu dillad fynd ar dân ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin 

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw yno ddydd Iau.

Ar ôl i'r tân gynnau yn y sychwr dillad, defnyddiodd y criwiau chwe set o offer anadlu, tri chamera delweddu thermol, tair pibell jet, un hydrant a mân offer i'w ddiffodd.

Cafodd cegin y cartref ei dinistrio'n llwyr gan y tân.

Image
Y gegin
Image
Y gegin

Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd i bobl beidio â gadael peiriannau heb unrhyw un yn eu goruchwylio. 

“Peidiwch â throi'r sychwr dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely,” medden nhw.

“Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.

“Peidiwch â gorlwytho'ch sychwr dillad na’i ddefnyddio i sychu eitemau sydd wedi cael eu defnyddio i amsugno hylifau fflamadwy gan gynnwys olew coginio.

“Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, gofynnwch i weithiwr proffesiynol gael golwg ar y peiriant.”

Image
Y gegin
Image
Y gegin

Digwydd y tân am 10:58 ac fe barhaodd y criwiau i fonitro am fannau poeth cyn gadael y safle am 13:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.