Canslo sesiwn nofio o achos llygredd yn yr afon Seine ym Mharis
Mae llygredd yn yr afon Seine ym Mharis wedi golygu bod yr hyfforddiant nofio ar gyfer triathletwyr yn y Gemau Olympaidd wedi gorfod cael ei ganslo.
Dyma'r ail ddiwrnod yn olynol nad yw hi wedi bod yn bosib cynnal sesiwn yn yr afon.
Mae'n bosib os na fydd ansawdd y dŵr yn gwella y bydd yn rhaid hepgor y nofio ac y bydd yr athletwyr wedyn yn gwneud duathlon sef y beicio a'r rhedeg.
Mewn datganiad ddydd Llun fe ddywedodd y trefnwyr mai'r "flaenoriaeth yw iechyd yr athletwyr" a bod ansawdd y dŵr ddim yn cwrdd â'r safonau derbyniol.
Mae'r triathlon ar gyfer y dynion i fod i ddigwydd ddydd Mawrth. Ond mae dau ddiwrnod arall wedi eu clustnodi sef y 1 ac 2 o Awst os nad yw ansawdd y dŵr yn ddigon da erbyn diwrnod y ras.
Os yw'r dŵr dal ddim yn cwrdd â'r safon fe fydd y ras wedyn yn troi i fod yn duathlon yn hytrach na triathlon.
Ym mis Gorffennaf roedd profion ar yr afon Seine wedi dangos bod y dŵr yn ddigon glan i'r athletwyr allu nofio ond mae'r glaw trwm yn ystod y penwythnos wedi achosi problemau.
Mae Paris 2024 a Triathlon y Byd yn dweud eu bod yn "hyderus" y bydd ansawdd y dŵr yn gwella am fod yna ddarogan tywydd braf ac y bydd y triathlon yn gallu digwydd ddydd Mawrth.