Newyddion S4C

Nicolás Maduro yn ennill etholiad arlywyddol Venezuela

29/07/2024
Nicolas Maduro.png

Mae Nicolás Maduro wedi ennill etholiad arlywyddol Venezuela yn ôl y canlyniadau cychwynnol sydd wedi eu cyhoeddi gan y cyngor etholiadol yn y wlad. 

Dywedodd pennaeth y Cyngor Etholiadol Cenedlaethol Elvis Amoroso, fod yr Arlywydd Maduro wedi sicrhau 51.20% o'r pleidleisiau o'r 80% ohonynt sydd wedi eu cyfri. 

Mae'r gwrthbleidiau wedi honni fod twyll wrth gyfri'r canlyniadau, gan addo herio'r canlyniad. 

Roedd y gwrthbleidiau wedi uno i gefnogi Edmundo González er mwyn ceisio disodli Mr Maduro sydd wedi bod yn arlywydd ers 11 mlynedd. 

Wrth annerch cefnogwyr yn y brifddinas, Caracas, dywedodd Mr Maduro fod cael ei ail-ethol yn "fuddugoliaeth i heddwch a sefydlogrwydd".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.