Y Canghellor i gyhoeddi camau i dorri costau yn wyneb diffyg ariannol

29/07/2024
Rachel Reeves

Fe fydd y Canghellor Rachel Reeves yn cyhoeddi camau i dorri costau ar unwaith ddydd Llun gan fod disgwyl iddi ddatgelu bod diffyg yn y cyfrifon o tua £20 biliwn.

Fe fydd hi’n tanlinellu'r hyn a adawyd gan y llywodraeth flaenorol. Bydd hefyd yn cyhoeddi dyddiad ei Chyllideb yr Hydref cyntaf wrth iddi addo “adfer sefydlogrwydd economaidd”.

Fe fydd hi’n dweud bod archwiliad gwariant y Trysorlys a gomisiynwyd ganddi yn dangos bod y llywodraeth flaenorol wedi gorwario biliynau o bunnoedd ar gyllidebau eleni ar ôl gwneud cyfres o addewidion heb eu hariannu.

Fe fydd hi hefyd yn cyhuddo’r llywodraeth Geidwadol flaenorol o “guddio gwir gyflwr cyllid cyhoeddus”.

Bydd Swyddfa Gwerth am Arian newydd, addewid maniffesto Llafur, yn dechrau ar y gwaith ar unwaith i nodi ac argymell meysydd lle gall y Llywodraeth arbed arian yn y flwyddyn ariannol gyfredol, meddai.

Bydd y swyddfa hefyd yn ceisio atal gwariant sy'n werth gwael am arian cyn iddo ddechrau.

Gwastraff a gorwariant

Bydd Ms Reeves yn cyhoeddi diwygiadau sy'n targedu gwastraff yn y sector cyhoeddus ac yn anelu at wneud adrannau'r llywodraeth yn fwy effeithlon.

Bydd hefyd yn atal gwariant nad yw'n hanfodol ar ymgynghorwyr, yn cael gwared ar ystadau dros ben ac yn cyflymu'r gwaith o gyflawni arbedion effeithlonrwydd gweinyddol mewn adrannau.

Mae disgwyl i’r Canghellor ddweud wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae’n bryd bod yn onest â’r cyhoedd a dweud y gwir wrthyn nhw.

“Gwrthododd y llywodraeth flaenorol â gwneud y penderfyniadau anodd. Roeddent yn cuddio gwir gyflwr cyllid cyhoeddus. Ac yna fe wnaethant redeg i ffwrdd. 

"Ni fyddaf byth yn gwneud hynny.

“Pleidleisiodd pobol Prydain dros newid a byddwn yn cyflawni’r newid hwnnw. Byddaf yn adfer sefydlogrwydd economaidd. Ni fyddaf byth yn sefyll o'r neilltu a gadael i hyn ddigwydd eto.

“Byddwn yn gosod sylfeini ein heconomi, fel y gallwn ailadeiladu Prydain a gwneud pob rhan o’n gwlad yn well ein byd.”

Mae Llafur wedi mynnu na fydd yn codi trethi ar weithwyr i ariannu ymrwymiadau ei maniffesto a dibynnu yn lle hynny ar dwf economaidd.

Llun: PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.