Newyddion S4C

Cau enwebiadau yn y ras am arweinydd newydd i'r Ceidwadwyr

29/07/2024
Sunak

Fe fydd y cyfnod o gynnig enwebiadau ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn dod i ben brynhawn dydd Llun. 

Mae'r Fonesig Priti Patel, Mel Stride, Tom Tugendhat, James Cleverly,Robert Jenrick a Kemi Badenoch eisoes wedi cynnig eu hunain i gymryd lle Rishi Sunak. 

Mae'r cyn ysgrifennydd cartref, Suella Braverman wedi dweud na fydd hi'n rhoi ei henw ymlaen. 

Bydd yr enwebiadau yn cau am 14.30 ddydd Llun.

Bydd angen cynigydd, eilydd ac wyth enwebiad ar bob ymgeisydd i fod yn gymwys.

Mae Tâl-feistr Cyffredinol yr Wrthblaid, John Glen, wedi dweud bod angen i’r Ceidwadwyr fynd trwy “broses drylwyr” sydd yn golygu “arddangos rhywfaint o ostyngeiddrwydd” a chael cynllun clir o sut i ennill ymddiriedaeth pobol Prydain yn ôl.

Dywedodd wrth raglen Sunday Morning with Trevor Phillips ddydd Sul: “Mae’n mynd i fod yn her anodd ac rydw i eisiau i bob ymgeisydd gael ei mesur yn drylwyr. Rydw i eisiau i aelodaeth y Blaid Geidwadol gael y cyfle i graffu ar yr ymgeiswyr hynny, fy nghydweithwyr rhagorol, yng nghynhadledd y blaid yn yr hydref.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd y blaid yn ceisio ethol eu prif weinidog nesaf neu arweinydd effeithiol yr wrthblaid, dywedodd Mr Glen: “Ni allwn ildio trwy ddweud yn unig y bydd yn arweinydd dros dro, nid yw hynny’n anochel.

“Rydyn ni’n gweld Llywodraeth sydd wedi’i hethol gyda llai na 34% o’r bleidlais boblogaidd. Rwy’n meddwl bod pobl yn gyffredinol yn cydnabod ei bod mewn sefyllfa eithaf ansicr er gwaethaf y mwyafrif mawr camarweiniol, a gall llawer ddigwydd mewn gwleidyddiaeth yn gyflym iawn yn y wlad hon.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.