Newyddion S4C

Cyn-chwaraewr Cymru a'r Llewod Peter Morgan wedi marw'n 65 oed

28/07/2024
Petr Morgan

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-chwaraewr rygbi Cymru, Llanelli a'r Llewod Peter Morgan, sydd wedi marw'n 65 oed.

Mewn neges ddydd Sul, dywedodd ei hen glwb: "Mae'r Scarlets yn drist iawn o glywed fod ein cyn chwaraewr Peter Morgan wedi marw.

"Chwaraeodd Peter 275 o gemau i'r Scarlets, gan sgorio 90 cais a bu'n gapten ar y clwb yn ystod buddugoliaeth dros Awstralia yn 1984.

"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Peter ar yr adeg trist yma."

Chwaraeodd Peter Morgan bump o weithiau i Gymru yn ystod ei yrfa, gan fynd ar daith gyda'r Llewod i Dde Affrica.

Dywedodd cyn-chwaraewr Llanelli Kevin Thomas mewn neges ar X: "RIP Mogs. Am chwaraewr. Am ddyn."

Angonodd Jonathan Davies neges hefyd ar X yn dweud: "Mor drist. Roedd Moggs yn chwaraewr gwych. RIP Peter."

Yn dilyn ei amser yn y byd rygbi fe aeth i wleidydda yn lleol yn ardal Sir Benfro gan chwarae rhan ganolog fel cadeirydd ag is-gadeirydd y cyngor sir.

Roedd hefyd yn aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae'n gadael ei wraig Helen, ei ddwy ferch Lowri a Nia, a'i wyrion Dewi a Seren.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.