Arestio Tommy Robinson 'dan ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth'
Mae’r ymgyrchydd asgell dde Tommy Robinson wedi’i arestio o dan ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth, meddai datganiad yn ei enw.
Dywedodd datganiad ar ei gyfrif X (Twitter gynt): “Fe allwn ni gadarnhau bod Tommy Robinson yn cael ei gadw gan yr heddlu gan ddefnyddio pwerau dan Ddeddf Terfysgaeth 2000.
“Mae hynny’n wir, fe wnaethoch ddarllen yr uchod yn gywir, mae Tommy yn cael ei gadw gan yr heddlu dan ddeddfwriaeth gwrth derfysgaeth.”
Fe gafodd Mr Robinson, sef Stephen Yaxley Lennon i ddefnyddio ei enw genedigol, ei arestio yn dilyn cwyn ynglŷn â ffilm benderfynodd ei dangos i dorf o bobl yn ystod gorymdaith yng nghanol Llundain ddydd Sadwrn.
Mewn neges a rannwyd ar X cyn y digwyddiad, dywedodd Tommy Robinson mai’r brotest fyddai’r “rali wladgarol fwyaf a welodd y DU erioed”.
Roedd tua 1,000 o blismyn wedi’u hanfon i strydoedd y ddinas i gadw’r heddwch.
Cafodd gwrth-brotest gan Stand Up To Racism a Phrosiect Chyfiawnder a Heddwch Jeremy Corbyn, y cyn-arweinydd Llafur, ei gynnal dyn LLundain yr un pryd.
Llun: Wikipedia