Pryder am ddyfodol sioeau ysgol yng Nghymru

Newyddion S4C

Pryder am ddyfodol sioeau ysgol yng Nghymru

Mae pryderon y gallai heriau ariannol gyfyngu ar gyfleoedd disgyblion ysgol i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol celfyddydol yn yr ysgol.

Wrth i’r Nadolig agosáu, mae’r llen yn agor ar dymor prysur o sioeau ysgol ar draws Cymru. 

I nifer o’r plant sy’n cymryd rhan, mae’r profiad o fod yng nghanol y goleuadau llwyfan yn un bythgofiadwy – ac yn gyfle na fyddai ganddyn nhw y tu allan i’r ysgol.

Ond y tu ôl i’r llawenydd, mae pryder cynyddol: a fydd y cyfleoedd hyn yn gallu parhau? 

Gyda chyllidebau ysgolion dan bwysau, mae ofn y gallai gweithgareddau allgyrsiol – fel sioeau – fod dan fygythiad.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud ei fod yn “bwysig bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi” i’r celfyddydau.

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Simon Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, fod yr heriau’n sylweddol: “Mae’r cyfnod ariannol y’n ni ynddo yn heriol i lawer o ysgolion – ac yn sicr yn ein cynnwys ni.

"Serch hynny, mae’n allweddol bwysig ein bod ni’n cynnig cyfleoedd cyfoethog i’n dysgwyr. Maen nhw yma i ddysgu, ond mae ysgol yn lot mwy na hynny.

"Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau â’r traddodiad yma.”

I athrawon drama, mae’r sioeau hyn yn fwy na digwyddiadau Nadolig – maent yn rhan greiddiol o feithrin talent Cymru.

Dywedodd Bethan Harkin, Pennaeth Cerdd a Drama Ysgol Cwm Tawe: “Mae’n mor bwysig. Wrth gwrs mae gwersi’n bwysig, ond mae’n rhaid i’r disgyblion gael y profiadau allgyrsiol yma hefyd. 

Image
Bro Tawe

"Mae rhai ar y llwyfan heno nad ydyn nhw erioed wedi gwneud dim cyhoeddus o’r blaen.”

“Cymru yw gwlad y gân – ac mae’r talent sy’n dod allan o Gymru fach yn enfawr. Os nad ydyn ni’n parhau i feithrin y sgiliau hyn, ble fydd ein diwylliant ni’n mynd?”

‘Uchafbwynt’

Dywedodd un disgybl yn yr ysgol, o'r enw Bryn, sydd yn aelod o gast Sioe Gerdd Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, ei fod yn gobeithio am barhad i’r hyn mae eisoes wedi profi.

“Byddai colli’r cyfle i wneud sioeau a pherfformio ar lwyfan fel hyn oherwydd problemau ariannol yn wael iawn.

“Mae gwneud sioe Ysgol a pherfformio yn uchafbwynt y flwyddyn i fi ac fe fyddai Ysgol yn ddiflas hebddo fe.”

Ychwanegodd Harri o flwyddyn 13 “Rwyf wedi cael cymaint o brofiadau yn barod i berfformio trwy’r Ysgol, ac fe fyddai cael gwared o’r profiadau yma oherwydd diffyg cyllid yn wael. 

“Mae’n bwysig bod y cyfleoedd yn parhau i’r disgyblion sydd yn dod yma yn y dyfodol.”

Yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru, mae angen sicrhau bod ysgolion yn gallu cynnal y cyfleoedd yma: “Mae angen rhoi gwerth ar y celfyddydau. 

“Mae’r cwricwlwm newydd yn gofyn i’r celfyddydau fod yn ganolog – ac os ydyn ni am wireddu hynny, mae’n bwysig bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi.”

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “darparu £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi profiadau creadigol fel sioeau cerdd, ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau artistig a pherfformio.”

Prif lun: Simon Davies, pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.