Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr posib yng Nghwpan y Byd 2026
Fe fydd Cymru yn wynebu Canada, Qatar a'r Swistir yn eu grŵp yng Nghwpan y Byd 2026 os ydyn nhw'n llwyddo i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Ar ôl gorffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd, fe fydd Cymru yn herio Bosnia-Hertsegofina yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle i gyrraedd y gystadleuaeth ar 26 Mawrth 2026.
Os ydyn nhw'n fuddugol, fe fyddent yn wynebu enillwyr gêm rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon yn y rownd derfynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 31 Mawrth.
Wrth dynnu enwau allan o'r het yn y Canolfan John F Kennedy yn Washington ddydd Gwener, fe gafodd enillwyr y gemau ail gyfle eu rhoi yng ngrŵp B, gydag un o'r gwledydd sydd yn cynnal y gystadleuaeth, Canada, yn ogystal â Qatar a'r Swistir.
Fe fydd yr Alban, sydd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth yn yr un grŵp â Brazil, Moroco a Haiti, tra y bydd Lloegr yn herio Croatia, Panama a Ghana.
Roedd cyn amddiffynnwr Lloegr, Rio Ferdinand yn arwain y seremoni ym mhrifddinas America.
Cafodd Arlywydd America, Donald Trump, ei gyflwyno gyda'r Wobr Heddwch FIFA cyntaf erioed gan Bennaeth FIFA Gianni Infantino yn ystod y digwyddiad, gyda sawl seren Hollywood ac o'r byd cerddorol yn gwneud ymddangosiadau.
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn America, Canada a Mecsico fis Mehefin a Gorffennaf 2026.
