Newyddion S4C

Taith gerdded mam o Gasnewydd i Birmingham er cof am ei merch

29/07/2024
Emma Webb a Brodie

Bydd menyw yn cerdded o’i chartref yng Nghasnewydd i Birmingham gan dynnu delw o geffyl y tu ôl iddi er cof am ei merch a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad.

Fis Medi, fe fydd Emma Webb, 49 oed, yn cerdded 140 milltir i Sioe Ceffyl y Flwyddyn, sydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Arddangos Genedlaethol Birmingham. Mae'n gwneud y daith er cof am ei merch Brodie a fu farw yn 16 oed, ym mis Mawrth 2020.

Bydd y fam yn cyflawni’r her gan dynnu Miles, sef ceffyl resin sy’n pwyso dros 80kg, y tu ôl iddi er mwyn dathlu cariad ei merch tuag at geffylau.

“Fe wnaethon ni benderfynu glynu at thema’r marchogaeth oherwydd cariad Brodie tuag at geffylau a’i thalent o'u cwmpas nhw,” meddai.

Mae Ms Webb eisoes wedi cyflawni her debyg gyda Miles wrth ei hochr, wedi iddi gerdded o Chepstow i Lundain ar gyfer Sioe Ryngwladol y Ceffylau'r llynedd. Fe gymerodd yr her honno 19 diwrnod iddi. 

Fe wnaeth presenoldeb y ceffyl annog pobl i drafod problemau iechyd meddwl gyda hi y tro diwethaf iddi gerdded y daith. Ei gobaith yw y bydd Miles yn annog pobl i siarad yn agored unwaith eto. 

“Roeddwn i’n awyddus i chwalu’r rhwystrau a’r stigma sy’n ymwneud ag iechyd meddwl,” meddai.

Image
Emma Webb a Brodie
Emma Webb a'i merch, Brodie

'Diflino'

Mae Ms Webb wedi codi bron i £60,000 ar gyfer sawl elusen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Papyrus a Riders Minds.

Ei gobaith y tro hwn yw codi cyfanswm o £100,000 erbyn iddi gyrraedd Sioe Ceffyl y Flwyddyn ym mis Medi.

Mae bellach yn edrych ymlaen at gyfarfod â phobl newydd ar ei thaith wrth iddi geisio codi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl.

Fe wnaeth Ms Webb gyfarfod â Thywysog Cymru yn ystod ei thaith ddiwethaf, gyda'r ddau yn trafod Brodie a’r pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, meddai.

“Roedd e’n anhygoel. Cefais wybod bod Y Tywysog William wedi gweld yr hyn yr oeddwn i’n ei wneud a’i fod eisiau fy nghefnogi rhyw sut, ond doeddwn i byth yn disgwyl y byddai wedi ymddangos ac ymuno a fi ar fy nhaith. 

“Wnaeth e aros gyda ni, mae’n debyg am 25 munud, yn tynnu Miles a fi, ysgwydd yn ysgwydd.” 

Image
Emma Webb a'r Tywysgog William

Mae’r fam hefyd wedi dechrau ymgyrch o’r enw ‘DoItForBrodie’, ac yn rhan o hynny mae’n addurno pedolau. 

Mae hefyd yn darparu codau QR ar y pedolau rheiny sydd yn mynd a’r unigolyn i wefannau elusennau gwahanol fel Papyrus a’r Samariaid. 

Yn dilyn ei gwaith ymgyrchu, mae Emma Webb wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer categori ymgyrchydd creadigol yng Ngwobrau JustGiving 2024, a fydd yn cael eu cynnal ar 18 Medi. 

Dywedodd Pescale Harvie, llywydd a rheolwr cyffredinol JustGiving bod Ms Webb wedi gweithio’n “ddiflino” i godi ymwybyddiaeth a chodi arian ar gyfer elusennau ers iddi golli ei merch. 

Image
Brodie

Lluniau: PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.