Un o sêr y gyfres Neighbours, Janet Andrewartha, wedi marw'n 72 oed
Mae teyrngedau wedi ei rhoi i’r actores Janet Andrewartha o Awstralia, a ddaeth yn wyneb adnabyddus yn dilyn ei rhan yn actio Lyn Scully yn y gyfres teledu boblogaidd Neighbours.
Bu farw’r actores yn ninas Melbourne ddydd Gwener. Roedd hi'n 72 oed.
Mae’r gyfres teledu Neighbours wedi rhoi teyrnged iddi mewn datganiad ddydd Sul, gan ddweud bod pawb sydd ynghlwm â’r gyfres wedi eu “tristau’n fawr.”
“Roedd gwylwyr yn ei charu hi am ei rôl fel Lyn Scully o Stryd Ramsay, a bydd Janet yn cael ei chofio am ei chorff eang o waith, sy’n cynnwys ei pherfformiad cofiadwy fel Reb Keane yn Prisoner: Cell Block H.”
Ychwanegodd y datganiad fod yr actores wedi creu nifer o ffrindiau yn ystod ei chyfnod yno, gan gynnwys Jackie Woodburne sydd yn wyneb cyfarwydd wrth actio'r cymeriad Susan Kennedy yn y gyfres.
“Byddai’n ei cholli hi pob dydd,” medd Susan Kennedy.
Inline Tweet: https://twitter.com/neighbours/status/1817444180072780019
Fe raddiodd Janet Andrewartha yn 1979 cyn iddi droi’n actores broffesiynol. Daeth yn rhan o gast Neighbours yn 1999, ac roedd yn un o’r prif gymeriadau am gyfnod o saith mlynedd.
Roedd yr actores wedi dychwelyd i’r gyfres sawl tro, gan ymddangos am y tro olaf yn 2019.
Dywedodd ei chyd-weithiwr, Stefan Dennis, sydd yn chwarae rôl Paul Robinson yn Neighbours: “Mor ddigalon i golli Janet annwyl… Mi fyddwn ni i gyd yn eich colli chi, ein merch annwyl.”
Mae ei chydweithwyr hefyd wedi ei disgrifio fel actores “anhygoel.”
Roedd ei gwaith diweddaraf yn cynnwys ei rôl fel Diana Thompson yn ‘Safe Home’ a Kath Tovey yn ‘Fake’ eleni.