Israel yn taro targedau Hezbollah wedi ymosodiad a laddodd 12 o bobl
Mae byddin Israel wedi dweud eu bod wedi taro targedau Hezbollah “y tu mewn i diriogaeth Libanus” yn dilyn ymosodiad ble y bu farw 12 o bobl ddydd Sadwrn.
Fe darodd taflegrau Hezbollah Ucheldiroedd Golan, sydd dan reolaeth Israel, brynhawn Sadwrn gydag un yn glanio ger cae pêl-droed lle'r oedd plant yn chwarae ar y pryd.
Roedd plant a phobl ifanc ymysg y meirw.
Dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu y byddai Hezbollah yn “talu’n drwm” am yr ymosodiad, cyn i’w fyddin ymateb.
Dywedodd Hezbollah nad oedd ganddyn nhw “unrhyw beth o gwbl i’w wneud â’r digwyddiad,” ond mae Israel wedi dweud mai nhw oedd yn "gyfrifol heb amheuaeth.”
Mae byddin Israel bellach wedi dweud eu bod nhw wedi llwyddo i daro targedau Hezbollah, gan ymosod ar eu harfau ac offer “terfysgol.”
Maen nhw wedi cynnal ymosodiadau yn ardaloedd Chabriha, Borj El Chmali, Beqaa, Kfarkela, Rab El Thalathine, Khiam, a Tayr Harfa, ychwanegodd llefarydd.
Mae Iran, sydd yn cefnogi Hezbollah, wedi rhybuddio Israel yn erbyn unrhyw weithredu pellach yn Libanus.
'Rhybuddio'
Yn ôl Lluoedd Amddiffyn Israel, fe gafodd y taflegryn a darodd Ucheldiroedd Golan ddydd Sadwrn ei lansio i’r gogledd o bentref Chebaa yn ne Libanus.
Roedd gwaith fforensig yn profi mai taflegryn ‘Falaq-1’ a gafodd ei greu gan Iran oedd yr arf dan sylw, medd llefarydd y Lluoedd Amddiffyn.
Mae gweinidog tramor Israel, Israel Katz, wedi rhybuddio bod y gwledydd bellach yn wynebu cyfnod o ryfela.
Mae’r Unol Daleithiau wedi dweud bod eu cefnogaeth dros ddiogelwch Israel yn gadarn yn erbyn “pob grŵp terfysgol sy’n cael eu cefnogi gan Iran, gan gynnwys Hezbollah Libanus".
Llun: Wochit