Paris 2024: Canslo ymarferion nofio'r Triathlon yn y Seine o achos llygredd dŵr
Mae ymarferion nofio ar gyfer cystadleuaeth y Triathlon yn y Gemau Olympaidd ym Mharis wedi eu canslo o achos lefel y llygredd sydd yn y dŵr.
Mewn datganiad, dywedodd pwyllgor trefnu'r Gemau: “Datgelodd y profion a gynhaliwyd yn y Seine ddoe lefelau ansawdd dŵr nad oedd ym marn y ffederasiwn rhyngwladol, World Triathlon, wedi rhoi digon o warantau i ganiatáu cynnal y digwyddiad.
“Mae hyn oherwydd glaw sydd wedi disgyn ar Baris ar 26 a 27 Gorffennaf.
"O ystyried y rhagolygon tywydd ar gyfer y 48 awr nesaf, mae Paris 2024 a World Triathlon yn hyderus y bydd ansawdd y dŵr yn dychwelyd i lai na’r terfynau cyn dechrau’r cystadlaethau triathlon.
“Fel y sylwyd ym mis Gorffennaf, gydag amodau’r haf, mae ansawdd dŵr yn y Seine wedi gwella’n sylweddol.
"Mae Paris 2024 a Thriathlon y Byd yn ailadrodd mai’r flaenoriaeth yw iechyd yr athletwyr.”
Petai'r sefyllfa'n parhau fe allai'r gystadleuaeth gael ei gohirio am ychydig ddyddiau, neu cael ei symud i Vaires-sur-Marne, sydd tu allan i Baris.
Y cam mwyaf eithafol fyddai canslo'r elfen nofio o'r Triathlon ond mae hyn yn anhebygol iawn o ddigwydd.