Newyddion S4C

O leiaf 30 wedi marw yn dilyn ymosodiad ar adeilad ysgol yn Gaza

27/07/2024
Ymosodiad ar adeilad ysgol yn Gaza

Mae o leiaf 30 o bobl wedi eu lladd yn dilyn ymosodiad gan awyrlu Israel ar adeilad ysgol yng nghanol dinas Gaza, medd swyddogion iechyd Palesteina. 

Fe wnaeth yr ymosodiad daro ysgol merched Khadija yn ardal Deir al Balah, sef un o’r ardaloedd gyda’r nifer fwyaf o deuluoedd sydd wedi eu gorfodi i ffoi yno. 

Roedd yr adeilad yn gartref i nifer o bobl oedd wedi cymryd lloches yno. 

Mae o leiaf 100 o bobl eraill wedi eu hanafu yn ystod yr ymosodiad, medd llefarydd ar ran gwasanaeth iechyd Palesteina, sy’n cael ei chynnal gan y grŵp terfysgol Hamas. 

Dywedodd byddin Israel mai bwriad yr ymosodiad oedd targedu canolfan Hamas. 

Maen nhw’n dweud bod adeilad yr ysgol yn cael ei ddefnyddio er mwyn cynnal ymosodiadau yn erbyn eu milwyr, yn ogystal â’i ddefnyddio er mwyn cadw arfau. 

Dywedodd llefarydd ar ran lluoedd Israel eu bod nhw wedi rhybuddio dinasyddion am yr ymosodiad o flaen llaw. 

Mae’r rhai sydd wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i ysbyty gyfagos, Ysbyty Aqsa. 

Yn ddiweddarach brynhawn dydd Sadwrn daeth adroddiadau bod o leiaf naw o bobl wedi marw yn dilyn ymosodiad gyda thaflegrau gan Hezbollah ar Ucheldiroedd Golan, sydd dan reolaeth Israel.

Y gred yw bod plant a phobl ifanc ymysg y meirw.

Fe wnaeth taflegryn lanio ar ardal Majal Shams o'r ucheldiroedd, gydag aroddiadau'n dweud ei fod wedi taro cae pêl-droed lle'r oedd plant yn chwarae ar y pryd.

Cadoediad

Mae’r cyfryngau lleol yn Palesteina hefyd yn dweud fod 14 o bobl wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiadau gan awyrlu Israel ddydd Sadwrn yn Khan Younis yn ne Gaza. 

Dywedodd byddin Israel eu bod nhw wedi rhybuddio pobl i ffoi o’r ardal am gyfnod – a theithio i ardal ddyngarol yn al Mawasi – fel bod modd iddyn nhw “weithredu'n rymus” yno, a hynny mewn ymateb i ffrwydrad roced yn yr ardal. 

Yn ôl awdurdodau iechyd Gaza, mae dros 39,000 o bobl Palesteina wedi cael eu lladd gan fyddin Israel ers dechrau’r rhyfel, gan gynnwys milwyr a dinasyddion. 

Fe gafodd tua 1,200 o Israeliaid eu lladd a dros 200 eu herwgipio yn ystod ymosodiad Hamas ar 7 Hydref 2023 – dyddiad sydd yn nodi dechrau’r rhyfela diwedaraf. 

Mae disgwyl i swyddogion o’r Aifft, yr Unol Daleithiau, Qatar ac Israel gyfarfod yn yr Eidal ddydd Sul er mwyn parhau a’u trafodaethau ynglŷn â chadoediad. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.