Ethol Gary Pritchard yn arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Ynys Môn

27/07/2024
Gary Pritchard

Mae grŵp cynghorwyr Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi ethol y Cynghorydd Gary Pritchard i fod yn arweinydd newydd dros gynghorwyr y Blaid. 

Fe fydd holl aelodau o’r Cyngor yn ethol arweinydd newydd ar yr awdurdod yng nghyfarfod llawn o’r cyngor ar 26 Medi.

Cafodd arweinydd y cyngor, Llinos Medi, ei hethol yn aelod seneddol dros Blaid Cymru ar yr ynys yn yr etholiad cyffredinol ddechrau mis Gorffennaf.

O gael ei ethol yn arweinydd grŵp cynghorwyr Plaid Cymru, mae'n debygol y gallai Gary Pritchard ddod yn arweinydd newydd ar y cyngor os byddai'n dewis cynnig ei enw, gan fod gan y blaid fwyafrif o gynghorwyr ar yr ynys.

Mae Mr Pritchard yn gynghorydd dros ward Seiriol ar yr ynys ag yn gyn-newyddidurwr gyda'r BBC ac mae'n byw yn Beaumaris.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.