Newyddion S4C

Cau nifer o ffyrdd yn effeithio ar drigolion yn Rhondda Cynon Taf

27/07/2024

Cau nifer o ffyrdd yn effeithio ar drigolion yn Rhondda Cynon Taf

Mae rhai o drigolion pentref yng Nghwm Cynon wedi dweud eu bod yn pryderu na fydd modd iddyn nhw adael eu tai dros y penwythnos gan y bydd sawl ffordd ar gau yn eu hardal leol.

Fel rhan o’r gwaith i uwchraddio’r A465 Blaenau’r Cymoedd, bydd rhan o’r A465 rhwng Hirwaun a Threwaun a chyffordd Cefn Coed â chylchfan yr A470 ar gau o 20.00 nos Wener hyd at 06.00 fore Llun.

Bydd pobl a fyddai fel arfer yn teithio ar hyd yr A465 bellach yn cael eu dargyfeirio ar hyd ffordd newydd ger Hirwaun a Threwaun, gan olygu y bydd nifer yn teithio heibio Trewaun a thrwy bentref Hirwaun.

Mae Liz Ralph wedi byw ym mhentref Hirwaun ers 33 mlynedd, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C bod y gwaith i uwchraddio’r ffordd wedi achosi oedi sylweddol iddi hi a thrigolion eraill yn ystod y misoedd a blynyddoedd diwethaf.

“Mae’n mynd a dod trwy’r amser, mae’r traffig sydd eisoes yn dod drwy’r pentref yn barod yn erchyll. 

“Dwi jyst yn teimlo byddai ddim yn gadael y tŷ y penwythnos yma oherwydd petawn i'n gwneud, byddai’n cael trafferth yn dychwelyd adref.”

Ag yntau hefyd byw yn Hirwaun, dywedodd ei mab, Craig Ralph, 24 oed, ei fod bellach yn cymryd 40 munud iddo gyrraedd Cefn Coed ger Merthyr Tudful, yn hytrach na tua 10 munud yr oedd arfer ei gymeryd.

Dywedodd ei fod “ar ei golled” pan mae ffyrdd ar gau gan nad oes modd iddo fynd ar noson allan yn lleol rhag ofn iddo fethu a chyrraedd adref.

Image
Ffordd ar gau
Cynllun o'r newidiadau yn lleol

'Dryslyd'

Yn brosiect gwerth £590 miliwn gan Lywodraeth Cymru, fe ddechreuodd gwaith i uwchraddio’r A456 Blaenau’r Cymoedd yn 2021.

Ac mae byw wrth ymyl gwaith ar y ffyrdd, yn ogystal â’r oedi y mae hyn yn ei achosi, bellach yn rhywbeth “cyffredin” i drigolion lleol, meddai Adam Owain Rogers, cynghorydd lleol Hirwaun, Penderyn a Rhigos dros Blaid Cymru. 

Bydd gwasanaeth bysiau rhwng Hirwaun a Merthyr Tudful yn cael eu canslo am y penwythnos cyfan, gan olygu y bydd yn rhaid i bobl deithio i Abercynon neu Bontypridd er mwyn defnyddio’r gwasanaeth bws i Ferthyr.

“’Dyn ni’n ymwybodol bod trigolion yn dibynnu ar fysys i gyrraedd eu gwaith ym Merthyr. Heb amheuaeth, fe fydd straen ychwanegol i’r rheiny fydd yn rhaid dal nifer o fysys a threnau i’r ddau gyfeiriad,” medd Mr Owain Rogers.

Ac o ddydd Llun, 29 Gorffennaf, hyd at ddydd Llun, 2 Medi, bydd ffordd yr A465 rhwng cyffordd Cefn Coed yr A470 a’r gylchfan dros dro ger Ystâd Ddiwydiannol Pant ar gau am gyfnod o bum wythnos.

Bydd gyfres o ffyrdd eraill yn cau am yr wythnosau i ddod wedi i ffordd yr A465 rhwng Hirwaun a Threwaun a chyffordd Cefn Coed â chylchfan yr A470 ail-agor ddydd Llun meddai’r cwmni sy’n gyfrifol, Adeiladwaith Cymoedd y Dyfodol. 

Dywedodd Liz Ralph ei bod yn “hynod o ddryslyd” i ddeall pa ffyrdd yn union fydd ar gau a phryd. “Dwi ‘di darllen e drwyddo sawl gwaith a dwi dal ddim yn glir ynglŷn â beth sydd am ddigwydd,” meddai.

“Bydd fwy o draffig achos fe fydd e’n cael ei ddargyfeirio trwy’r pentref, ac mae ‘na wybodaeth ynglŷn â chynllunio am adael fwy o amser, ond sut allet ti ‘neud hynny os nag wyt ti’n gwybod beth fyddai’r effaith ar y traffig?”

'Pryder'

Fe ddaw hyn wedi i un o brif ffyrdd Rhondda Cynon Taf gael ei chau am gyfnod o dri mis er mwyn cynnal gwaith atgyweirio.

Bydd A4061 Ffordd Mynydd y Rhigos ar gau hyd at ddiwedd Hydref 2024 er mwyn mynd i’r afael â difrod a gafodd ei achosi gan dân yn ystod cyfnod yr haf, 2022.

Ond gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn y sir ymhen ychydig o wythnosau, mae rhai pobl leol wedi dweud eu bod yn pryderu am y “diffyg trefn” ar ran y cyngor. 

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Elyn Stephens: "Mae'n taro fi bod hwn yn gyfnod eithriadol o wael i ddewis i 'neud hi, gyda'r Eisteddfod, gyda diffyg gwasanaethau mamolaeth ar gael ym Mhen-y-Bont.

"Yr unig rai sydd ar ôl nawr yw ym Merthyr, a dyna llwybr ni at Merthyr Tudful. So chi'n gallu dwblu os nad treblu'r amser mewn cyfnodau o draffig."

Wrth siarad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd person arall ei fod yn siomedig y bydd Rhondda Fawr ar ei cholled gan na fydd yn elwa’n fasnachol o bobl sydd yn teithio drwy’r ardal.

Dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf mewn datganiad nad ydyn nhw’n disgwyl y bydd Ffordd Mynydd y Rhigos yn gweld effaith traffig yn sgil yr Eisteddfod “oherwydd ei lleoliad daearyddol a’r llwybrau eraill sydd ar gael.”

“Rydym yn deall yn iawn y bydd y gwaith cynnal a chadw yma yn anghyfleustra i gymunedau lleol.

“Y peth olaf yr ydym am ei wneud yw cau ffordd sy’n cael ei defnyddio’n aml, ond mae’n rhywbeth y mae angen inni ei wneud er mwyn sicrhau y bydd modd defnyddio’r ffordd yn y dyfodol.”

Llun: Adeiladwaith Cymoedd y Dyfodol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.