Miliynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus i dderbyn codiad cyflog
Mae disgwyl i'r Canghellor Rachel Reeves gymeradwyo codiadau cyflog uwch na chwyddiant i filiynau o weithwyr yn y sector cyhoeddus yr wythnos nesaf.
Mae disgwyl y cyhoeddiad yng nghanol pryderon am y gost o weithredu diwydiannol pellach os bydd Llywodraeth y DU yn gwrthod y codiad cyflog.
Mae disgwyl i’r Canghellor ymateb i argymhellion cyrff adolygu cyflogau annibynnol ddydd Llun, pan fydd hi hefyd yn dadlau yn y Senedd fod y Torïaid wedi gadael Llafur gydag bwlch gwariant sylweddol, gan gynnwys diffyg o £20 biliwn.
Fe allai'r Canghoellor hefyd gyhoeddi oedi i gyfres o gynlluniau cyfalaf i lenwi'r diffyg.
Gallai athrawon a thua 1.3 miliwn o staff y Gwasanaeth Iechyd dderbyn codiad o 5.5%, a allai gostio tua £3.5 biliwn yn fwy na'r hyn oedd wedi ei gyllido ar ei gyfer.
Mae economegwyr yn credu y gallai hyn godi i tua £10 biliwn pe bai cyrff adolygu cyflogau eraill yn rhoi cyngor tebyg ar weithwyr fel yr heddlu, swyddogion carchardai, meddygon a deintyddion.
Mae Syr Keir Starmer wedi cydnabod yn flaenorol y byddai methu â dilyn argymhellion y cyrff adolygu cyflogau yn arwain at don newydd o anghydfod diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus.
Ni wnaeth Llafur wadu adroddiadau y gallai Ms Reeves gyflwyno'r un ddadl wrth iddi gymeradwyo'r codiadau cyflog er gwaethaf y diffyg yng nghynlluniau ariannu'r Llywodraeth.
Bydd canfyddiadau archwiliad o wariant y Trysorlys yn datgelu “gwir raddfa’r difrod y mae’r Ceidwadwyr wedi’i wneud i gyllid cyhoeddus", meddai ffynhonnell yn y blaid Lafur.
Y gred yw bod bwlch blynyddol o bron i £20 biliwn rhwng ymrwymiadau refeniw ac ariannu.
Gallai ymestyn yr hwb cyflog o 5.5% – sy’n uwch na chwyddiant ar 2% – i’r sector cyhoeddus cyfan gostio rhyw £10 biliwn y flwyddyn, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid.
Gan nad yw’r gost hon wedi’i chyllidebu’n llawn yn y cynlluniau presennol, byddai’n rhaid codi’r arian drwy’r gofod cyllidol presennol, addasu rheolau cyllidol neu godiadau treth.
Ni fyddai disgwyl unrhyw godiadau treth i gwrdd â'r costau hynny cyn cyllideb yr hydref.
Mae Llafur wedi diystyru codi treth incwm, TAW, yswiriant gwladol a threth gorfforaethol.
