Newyddion S4C

'Môr o dristwch': Teyrngedau i bedwar dyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad

27/07/2024
Andrei Tudorov, Lyuben Gogov, Narcis Titianu a Ioan Toma

Mae teuluoedd pedwar dyn ifanc gafodd eu lladd ar ôl i’w car daro i mewn i goeden wedi disgrifio “môr o dristwch” ar ôl eu marwolaethau.

Fe wnaeth yr heddlu yn Sir Gaerloyw ddarganfod Renault Clio du oedd wedi taro coeden ar yr A436 yn Ullenwood, ger Cheltenham, toc cyn 02:00 ddydd Sul.

Mae Heddlu Sir Gaerloyw bellach wedi’u henwi fel Andrei Tudorov, 18 oed, dinesydd o Rwmania a oedd yn ymweld â Sir Gaerloyw ar ei wyliau, ynghyd â Lyuben Gogov, Narcis Titianu ac Ioan Toma, oedd i gyd yn 20 oed, ac yn byw yng Nghaerloyw.

Roedd Mr Gogov yn dod o Fwlgaria, tra bod Mr Titianu a Mr Toma yn ddinasyddion o Rwmania, meddai'r heddlu.

Rhoddodd mam Mr Tudorov, Iolanda, deyrnged i’w mab, gan ddweud: “Roedd yn mynd i gymryd y Fagloriaeth a mynd i Campina ac roedd eisiau bod yn blismon.

“Roedd Andrei wedi bod yn hoff o chwaraeon ers pan oedd yn bedair oed.

“Roedd yn enaid cynnes a chariadus, yn frawd da, yn angel a hedfanodd yn llawer rhy fuan, gan adael môr o dristwch ar ei ôl ymysg ei deulu ac ymhlith ei ffrindiau”.

Rhoddodd teulu Mr Titianu deyrnged i’r “cariad a llawenydd di-ben-draw” a ddaeth i’r rhai oedd yn ei adnabod.

Dywedodd y teulu mewn datganiad: “Fel yr ieuengaf o dri o frodyr a chwiorydd, daeth Narcis â chariad a llawenydd di-ben-draw i fywydau ei deulu a’i ffrindiau.”

“Ni all geiriau ddal hanfod Narcis, ein brawd golygus a deallus, yn llawn.

“Er nad yw gyda ni mwyach, daliwn yn y gobaith y cawn ein haduno ryw ddydd.

“Tan hynny, bydd ei gof yn parhau yn ein calonnau, ac yn rhan unigryw o’n bywydau."

Dywedodd teulu Mr Tomu ei fod yn “ffagl o olau” yn eu bywydau ac yn “epitome o lawenydd a chynhesrwydd”.

“Nid brawd yn unig oedd e – roedd yn epitome o lawenydd a chynhesrwydd.

“Gallai gwên gyson a chwerthin heintus Ioan oleuo’r ystafell dywyllaf, a daeth ei bresenoldeb â hapusrwydd i bawb oedd yn ei adnabod.”

Rhoddodd rhieni Mr Gogov deyrnged i “wên dragwyddol” eu mab a diolch iddo am “yr holl atgofion a llawenydd” yr oedd wedi’u rhoi iddyn nhw.

Dywedon nhw: “Colli mab yw un o’r colledion anoddaf i’w gael mewn bywyd.

“Byddi amser yn aros yn ein meddyliau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.