Tri yn euog mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 30 oed yn Rhondda Cynon Taf
Mae tri o bobl wedi eu cael yn euog mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 30 oed yn Rhondda Cynon Taf ym mis Rhagfyr y llynedd.
Bu farw Daniel Rae mewn eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest, ar nos Sul, 17 Rhagfyr.
Wedi ymchwiliad a gafodd ei arwain gan Dîm Ymchwilio Troseddau Mawr Heddlu De Cymru, fe gafwyd Kieran Ashton Carter, 22, o Birmingham, yn euog o lofruddiaeth.
Mae Amy Jones, 37, a Chad Joy, 33, o Bontypridd, wedi eu cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Raikes: "Ychydig wedi 19:50 ar ddydd Sul, 17 Rhagfyr, fe wnaethom ni dderbyn adroddiad gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru nad oedd Daniel yn anadlu mewn eiddo ar Stryd y Dywysoges, Trefforest. Dioddefodd anafiadau trywanu difrifol i'w goes a oedd yn angheuol.
"Arweiniodd hyn at ymchwiliad heriol a chymhleth yn ymwneud ag adnoddau arbenigol ar hyd y llu, er mwyn adnabod ac erlyn y rhai oedd yn gysylltiedig â marwolaeth Daniel Rae.
"Hoffwn anfon fy nghydymdeimladau at deulu Daniel Rae a diolch iddynt am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad."
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu ar 26 Medi.