Newyddion S4C

Mam yn rhoi’r gorau i’w gyrfa oherwydd diffyg lle mewn ysgol ar gyfer ei merch awtistig

ITV Cymru 26/07/2024
Rebecca Davies a'i merch

Mae athrawes wedi cael ei gorfodi i roi'r gorau i weithio i ofalu am ei merch dair oed sydd gydag anghenion dysgu ychwanegol oherwydd nid oes lle iddi yn ei hysgol arbennig leol.

Mae Rebecca Davies, mam Maggie a Millie, wedi rhoi’r gorau i’w gyrfa addysgu ar ôl 10 mlynedd am gyfnod amhenodol, oherwydd yr hyn mae’n ei ddisgrifio fel diffyg cefnogaeth i rieni plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae ei merch Millie, sy'n bedair oed eleni, yn awtistig ac mae ganddi anawsterau dysgu dwys.

“Mae hi’n lush, mae’n hyfryd," meddai ei mam.

"Hi yw'r ferch fach fwyaf cariadus. Mae hi'n ddireidus. Mae hi'n hollol wych."

Yn dechnegol, mae gan Millie le yn Ysgol Heol Goffa, ysgol yn Llanelli ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, ond nid oes ganddi ddyddiad cychwyn oherwydd nid oes yna fwy o le yn yr ysgol.

Dywedodd Rebecca fod y broses o geisio cael y ddarpariaeth addysg briodol ar gyfer ei merch wedi bod yn "erchyll" ac yn "dorcalonnus".

Mae’r athrawes ymhlith nifer sydd wedi siarad ag ITV News am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth sicrhau’r gorau i’w plant ag ADY. 

"Dwi wedi gorfod gorffen fy ngyrfa addysgu ar ôl 10 mlynedd, oherwydd does dim cefnogaeth," meddai Rebecca wrth ITV Cymru Wales.

Image
Rebecca Davies
Dywedodd Rebecca nad yw ei merch Millie yn cael ei "gwerthfawrogi fel plant eraill"

"Hyd nes eich bod chi yn y sefyllfa, mae'n amhosib i ddeall. Mae fy mhlant yn dod cyn popeth, ond mae wedi bod yn erchyll.

"Dwi’n teimlo nad yw Millie yn cael ei gwerthfawrogi fel plant eraill ac mae hynny'n dorcalonnus fel rhiant. Mae gen i un plentyn niwrodebygol sy'n ffynnu mewn ysgol brif ffrwd Gymraeg, ac mae gen i Millie sy'n aros.

"Mae'n teimlo fel swydd llawn amser i mi. Ers gorffen addysgu, dwi’n gweithio'n galetach nawr yn codi ei llais drosti, yn ei chefnogi ac yn ceisio cael yr hyn y mae'n haeddu, sef y lleiafswm lleiaf posibl.

"Mae'n hawl i blant gael addysg. Pam ddylai hi ddim cael yr hyn sydd gan bob plentyn arall?"

Er y dylai Millie fod yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser ym mis Medi, nid oes gan y teulu unrhyw syniad pryd fydd eu sefyllfa yn dod i ben.

"Yn y cyfamser, wrth inni aros i Millie gael ei lle, beth sy'n digwydd wedyn? Pa ymyrraeth sy'n digwydd?

“Mae lle i 74, mae 124 o blant yn yr ysgol yn barod, felly does dim lle.

"Dy’n nhw ddim yn gallu dweud wrthym ni pa mor hir mae’n mynd i fod.

"Mae'n gêm o aros a gobeithio, a gwneud cymaint ag y gallwn gartref a dyfalbarhau."

Image
Millie, merch Rebecca Davies
Mae Millie yn awtistig ac mae ganddi anawsterau dysgu difrifol

Mae Rebecca ymhlith llawer o rieni gafodd sioc pan wnaeth Cyngor Sir Gaerfyrddin dynnu’n ôl eu cynlluniau i adeiladu ysgol newydd fwy o faint oherwydd cyfyngiadau cyllideb.

"Roedd cael Millie i Ysgol Heol Goffa yn frwydr ynddi ei hun. Fe wnes i wthio’n gryf amdani oherwydd ei bod yn ysgol anhygoel. Mae'r hyn sy'n digwydd yno yn syfrdanol.

“Ry’ch chi'n clywed eu bod nhw'n tynnu'r plwg ar hyn, dwi’n teimlo ei bod hi’n un cam ymlaen, dau cam yn ôl."

Dywedodd Rebecca fod y frwydr i geisio sicrhau bod Millie yn cael yr hyn y mae ganddi hawl iddo wedi bod yn "dorcalonnus".

"Hi yw ein dyfodol. Nhw yw ein dyfodol.

“Dim ond oherwydd na all Millie siarad eto, does dim cyfyngiad ar yr hyn y gall hi wneud.

"Mae ganddyn nhw botensial anhygoel… mae eu hymennydd yn gweithio'n wahanol.

"Rydych chi'n teimlo fel rhoi'r gorau iddi yn aml ond oherwydd eich cariad at eich plentyn ry’ch chi'n dal i wthio drwyddi a gwthio am yr hyn mae nhw angen.”

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn datganiad y bydd adolygiad o'r ddarpariaeth ADY arbenigol bresennol yn Llanelli yn dechrau yn yr hydref.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, yn gynharach yn y mis: “Rwy’n gwerthfawrogi bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, ers i’r penderfyniad gael ei wneud ym mis Mai i beidio â pharhau â’r cynlluniau i adeiladu ysgol arbennig newydd oherwydd costau sylweddol uwch.

“Er na allwn barhau gyda’r cynlluniau penodol hyn, hoffwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi’i wneud i gau’r ysgol bresennol.

“Hoffwn ailadrodd a rhoi sicrwydd i rieni ein bod wedi ymrwymo’n ddwfn i sicrhau y bydd pob disgybl yn parhau i dderbyn yr addysg orau.”


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.