Dryswch, diflaniad - a'r gamp o gneifio pwdls?: Cofio Gemau Olympaidd cyntaf Paris yn 1900
Wrth i lygaid y byd droi at ddechrau'r Gemau Olympaidd ym Mharis y penwythnos hwn, fe fydd la Ville Lumière, dinas y goleuadau, yn croesawu'r gystadleuaeth yno am y trydydd tro.
Dim ond Paris a Llundain sydd wedi bod yn lleoliad i'r Gemau deirgwaith - gyda'r Gemau diwethaf ym mhrifddinas Ffrainc yn 1924 a 1900.
Cafodd y cystadlu yn 1900 ei gynnal dros gyfnod o bum mis fel rhan o arddangosfa Ffair y Byd.
A gan fod Ffair y Byd yn cael ei ystyried fel digwyddiad mwy pwysig, cafodd y Gemau eu cynnal yng nghysgod y digwyddiad hwnnw.
Gan fod rheolau, ffurf a threfn Gemau 1900 ychydig yn anelwig, does dim sicrwydd fod llawer oedd yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau yn sylweddoli ar y pryd eu bod yn rhan o gystadleuaeth ryngwladol fawreddog.
Trefniadau
Ychydig yn ddryslyd oedd y trefniadau, gyda'r rasys rhedeg ar gae anwastad oedd yn aml yn wlyb.
Cafodd y rasys naid dros y clwydi eu cynnal gyda hen bolion telegraff wedi eu torri ar gyfer y clwydi eu hunain.
Cymaint oedd y dryswch am amser a lleoliadau rhai digwyddiadau fel nad oedd neb yn bresennol i wylio'r cystadlu ar adegau.
Un o enillwyr coll y Gemau yma oedd bachgen ifanc o Baris.
Roedd angen llywiwr i lywio cwch y cystadleuwyr o'r Iseldiroedd yn y gystadleuaeth rhwyfo i ddau ar y funud olaf.
Fe gafodd bachgen ei ddewis o'r lan i lywio ac fe ddaeth y ddau o'r Iseldiroedd yn gyntaf yn y ras. Cafodd llun o'r ennillwyr buddugol gyda'r bachgen ei dynnu, cyn iddo ddiflanu i'r dorf am byth.
Hyd heddiw nid oes neb yn gwybod pwy oedd y bachgen hwnnw.
Menywod ar y brig
Roedd menywod yn rhan o'r cystadlu yn y Gemau am y tro cyntaf er nad oeddynt yn cael eu cydnabod yn swyddogol gan y pwyllgor trefnu.
Daeth menywod i'r brig mewn nifer o gystadleuthau ond mae rhywfaint o ddryswch am pa fenyw oedd y cyntaf i ennill medal aur.
Daeth Hélène de Pourtalés o'r Swistir yn gyntaf ar 25 Mai am hwylio, ond ni ddechreuodd y Gemau'n swyddogol tan 14 Gorffennaf wrth i'r cystadleuthau rhedeg gychwyn.
Un gamp sydd ar gofnod ar y we am Gemau Olympaidd 1900 yw'r gystadleuaeth ryfeddol o gneifio blew pwdls.
Cafodd ei chynnwys fel arbrawf ar gyfer Gemau'r dyfodol ym 1900, gyda 128 yn cystadlu am y wobr gyntaf - yn ôl rhai adroddiadau.
Roedd torf o 6,000 wedi casglu ym mharc y Bois De Boulogne i wylio'r torwyr tresi dawnus medd rhai.
Y gamp oedd torri blew y nifer fwyaf o bwdls mewn cyfnod o ddwyawr.
Ond o edrych yn ofalus ar enw'r ennillydd - Avril Lafoule - a dyddiad y cystadlu, sef 1 Ebrill 1900, mae'r gwirionedd yn dod yn amlwg.
Ymgais un o newyddiadurwyr y Daily Telegraph i dynnu coes oedd y stori chwedlonnol hon, wrth gyhoeddi darn yn edrych ymlaen at Gemau Olympaidd Beijing.
'Shaggy dog story', os oedd un erioed.
Prif lun: Llyfrgell Genedlaethol Cymru