
Opera newydd i nodi 90 mlynedd ers trychineb Glofa Gresffordd
Opera newydd i nodi 90 mlynedd ers trychineb Glofa Gresffordd
Mae opera newydd wedi'i chyfansoddi i nodi 90 mlynedd ers trychineb Glofa Gresffordd a laddodd 266 o ddynion a bechgyn.
Bydd y gwaith newydd, Gresford – Up From Underground, yn cael ei berfformiad rhyngwladol cyntaf ym mis Medi.
Bydd yn rhan o noson agoriadol Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yng Nghadeirlan Llanelwy ar nos Iau, 12 Medi.
Fe'i hysgrifennwyd gan y cerddor a'r cyfansoddwr Jonathan Guy a bydd yn cael ei arwain gan ei frawd Robert, gyda'r geiriau gan y bardd Grahame Davies.
Mae gan Jonathan a Robert Guy, o Wrecsam, gysylltiad teuluol agos â'r diwydiant glo yn eu tref enedigol - roedd eu taid, Jack Monslow, yn ffitiwr ym mhyllau glo Llai a'r Bersham.
Bydd Jonathan yn rheoli'r perfformiad a arweinir gan Robert ac yn cynnwys chwe canwr proffesiynol, cerddorfa y NEW Sinfonia, côr cymunedol 120 o leisiau o bob rhan o’r Gogledd a hyd at 20 o gerddorion ifanc.
Bydd yr actor Mark Lewis Jones, o Rosllannerchrugog, yn adroddwr.
Dywedodd Jonathan: "Fel rhywun o ardal Wrecsam cefais fy magu yng nghysgod trychineb Gresffordd gan ddysgu amdano yn yr ysgol, oherwydd mae'n rhan o'n treftadaeth ddiwylliannol.
"Mae nodi 90 mlynedd ers y digwyddiad yn garreg filltir arwyddocaol a gan mai NEW Sinfonia yw sefydliad cerddoriaeth broffesiynol Wrecsam, byddai wedi bod yn esgeulus i mi beidio â cheisio gwneud cyfiawnder â’r achlysur.
"Pan siaradais â'r bobl yng Nghanolfan Achub Glowyr Wrecsam, fe ddywedon nhw wrtha i fod y dynion fu farw wedi colli hanner eu cyflog am nad oedden nhw wedi cwblhau eu shifft.
"Roedd cyflogau llawer ohonyn nhw yn eu pocedi ac mae'r arian yn dal i lawr yno gyda nhw. Ni chafodd eu teuluoedd byth eu talu."

Trychineb
Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio dan ddaear pan rwygodd ffrwydrad trwy'r pwll yn oriau mân y bore ar 22 Medi, 1934.
Roedd nifer y gweithwyr ar y safle yn llawer mwy na'r arfer gan fod nifer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn iddyn nhw allu gwylio gêm bêl-droed yn Wrecsam yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dim ond chwech o'r glöwyr o'r rhan honno o'r pwll glo a lwyddodd i ddringo allan o'r mwg a'r llwch, a'r tanau tanddaearol cynddeiriog a oedd yn llosgi eu cydweithwyr.
Dywedodd Grahame Davies: "Rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol o Drychineb Gresffordd. Cefais fy magu yng Nghoedpoeth a gallech weld Glofa Gresffordd o ffenestri ein cartref - bu farw cryn dipyn o'n pentref yno.
"Roedd fy nhaid fy hun yn gweithio yng Nglofa Llai fel adeiladwr yn gosod y gêr weindio.
"Roeddwn i'n awyddus i Gresffordd gael ei chofio a'i rhoi ar y map oherwydd un o'r themâu yn y gwaith yw na chafodd y trychineb y gydnabyddiaeth mae'n ei haeddu ac nad oedd cyfiawnder wedi'i wneud i'r glowyr a'u teuluoedd.
"Ond roedden ni hefyd eisiau gorffen ar nodyn cadarnhaol gyda rhywbeth mwy pendant a hyderus drwy fyfyrio ar gymuned sydd bellach yn ffynnu gydag ymdeimlad newydd o bwrpas."

‘Achlysur arbennig’
Mae'r perfformiad cyntaf yn yr ŵyl yn cael ei gefnogi gan un o brif noddwyr y digwyddiad, sef sefydliad gofal Parc Pendine, a fu’n gofalu am oroeswr olaf trychineb Gresffordd, Albert Rowlands.
Roedd Mr Rowlands, a fu farw yn 2020, yn fachgen lamp 15 oed yn y lofa ar y pryd ac roedd ei dad, John, ymhlith y rhai a fu farw ar y diwrnod ofnadwy hwnnw.
Dywedodd Mario Kreft MBE, perchennog Parc Pendine: "Bydd yn achlysur arbennig o deimladwy i ni gan ein bod wedi cael y fraint o ddarparu gofal i Albert Rowlands dyn arbennig a oroesodd drawma trychineb Glofa Gresffordd ac aeth ymlaen i fyw bywyd llawn iawn.
"Rydym yn dymuno rhoi ein cefnogaeth i'r première er cof am Albert."